Gêm gyfartal wedi diwrnod rhyfedd ar yr Oval

  • Cyhoeddwyd
Ollie PopeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Ollie Pope 274 ym matiad Surrey

Roedd hi'n anochel mai gêm gyfartal fyddai rhwng Morgannwg a Surrey ar yr Oval.

Wedi batiad cyntaf Morgannwg o 672 am 6, aeth Surrey i mewn a batio'n well fyth.

Fe ddechreuon nhw'r diwrnod olaf ar 387 am 2, ond roedd Hashim Amla ac Ollie Pope yn y canol, ac fe aeth y ddau ymlaen i sgorio'n drwm.

Llwyddodd Amla i gyrraedd 163, ac aeth Pope i sgôr anferthol o 274 cyn colli'i wiced.

Erbyn y prynhawn, gyda'r canlyniad yn amlwg, fe wnaeth pob un o chwaraewyr Morgannwg geisio bowlio, gyda'r wicedwr - y capten Chris Cooke - yn newid lle gyda Michael Hogan er mwyn bowlio ei hun.

Er hynny, dim ond dwy wiced ddisgynnodd, ac fe orffennodd Surrey y diwrnod ar 722 am 4.

Pynciau cysylltiedig