Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caeredin 26-22 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Steff EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Steff Evans yn sgorio yn erbyn Caeredin

Mae'r Scarlets wedi colli eu gêm gyntaf erioed yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig wedi i Gaeredin sicrhau'r fuddugoliaeth o 26 i 22.

Cafodd Dan Jones gyfle cynnar i sgorio wedi i'r Scarlets gael cic gosb ond fe darodd y bêl y postyn.

Wedi dwylo da gan Sione Kalamafomi fe diriodd Steff Evans yn y gornel i sgorio cais cyntaf y gêm.

Ond erbyn 25 o funudau roedd Caeredin ar y blaen o 7-5 wedi cais a throsiad Blair Kinghorn.

Cryfhau wnaeth perfformiad y tîm cartref yn y cyfnod dilynol ac fe sgoriodd Mike Bennett eu hail gais, cyn i Dan Jones gwtogi'r bwlch wedi cic gosb lwyddiannus o 40 medr.

Ond bron yn syth wedi i'r gêm ailddechrau. roedd Darcy Graham wedi sgorio trydydd cais Caeredin i fod 19-8 ar y blaen ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Thomas/Huw Evans Agency

Llwyddodd y Scarlets i wrthsefyll pwysau munudau cynnar yr ail hanner, ac fe diriodd Steff Evans eto ond doedd y cais ddim yn sefyll.

Yna fe fanteisiodd Keiran Hardy ar fwlch yn amddiffyn Caeredin i sgorio ail gais y Scarlets. Gyda throsiad Dan Jones fe roedd hi'n 19-15.

Ond wedi bron i awr o chwarae roedd Caeredin unwaith eto wedi ymestyn y bwlch - i 26-15 -trwy ail gais Darcy Graham a throsiad llwyddiannus.

Tarodd y Scarlets yn ôl wedi i Jonathan Davies garlamu i lawr y dde a phasio'r bêl i Johnny McNicholl ar gyfer trydydd cais tîm Dwayne Peel.

Ychwanegodd Sam Costelow at y pwyntiau ond er ymdrechion y chwarter awr oedd yn weddill ni fu unrhyw newidiadau pellach i'r sgôr.

Pynciau cysylltiedig