Cariad am ddillad efo 'stori a hanes'
- Cyhoeddwyd
"Wrth brynu dillad ail-law a phethau vintage mae 'na stori a hanes i ddilledyn ac hefyd mae 'na fywyd wedi bod cynt ac mae rhywbeth eitha sbeshal am hynny. Hefyd ti'n gallu cerdded i mewn i rhywle a gwybod fod neb arall yn mynd i fod wedi gwisgo yr un peth."
Gan fod hi'n fis prynu dillad ail-law (Second Hand September), bu Cymru Fyw'n siarad gyda Branwen Davies, dramodydd a rheolwr llenyddol yn Theatr Sherman, am ei chariad am ddillad ail-law a vintage.
Oxfam sy'n trefnu'r ymgyrch er mwyn annog pobl i brynu dillad ail-law yn hytrach na rhai newydd am 30 diwrnod, gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o effaith ffasiwn ar yr amgylchedd.
Mae Branwen, sy' o Sir Fôn yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, yn gwerthu dillad ail-law a vintage ac yma mae hi'n rhannu ei chariad am ddillad 'gyda cymeriad'.
Hobi ydy prynu dillad ail-law i fi. Roedd Nain yn arfer gweithio mewn siop Tenovus ym Mhorthmadog ac o'n i wrth fy modd yn mynd trwy'r rails.
O'n i'n arfer gweithio mewn siop dillad Morgan ym Mangor pan o'n i yn y brifysgol ac o'n i'n cael gwisgo fyny a chael bach o hwyl efo'r dillad. Felly er fod diddordeb gyda fi mewn dillad cyn hynny, oedd hwnna'n agoriad llygad i fyd ffasiwn hefyd.
Cyfnod clo
Dros y cyfnod clo o'n i'n edrych ar fy wardrob i, sy'n fwy na wardrob - mae o'n ddau bolyn hir sy'n mynd o un ochr y wal i'r ochr arall ac oedd o dan ei sang.
Falle fod hwn yn gyfle i gael rhyw fath o outlook creadigol gwahanol a gwerthu bach o ddillad. O'n i'n teimlo'n euog mod i ddim yn gwisgo nhw ac oedd o'n ffordd wahanol o arddangos dillad (ar Instagram) a rhoi cyfle i rywun arall i fwynhau nhw.
Oedd o'n ridiculous bod nhw'n hongian yn fy wardrob i pan fyddai rhywun arall yn gallu mwynhau nhw - dwi 'di neud bach o waith ymchwil ynglŷn â beth mae'n gymryd i wneud darn o ddilledyn (mi fyddai'n cymryd 13 mlynedd i yfed faint o ddŵr mae'n cymryd i wneud un crys-t ac un pâr o jîns).
Mae o'n ddychrynllyd pan ti'n gweld pobl yn gweithio yn y ffatris, jest meddwl o lle mae'r dilledyn yma wedi dod, pa mor bell mae wedi teithio.
Gwastraff
Ac hefyd gymaint o ddillad sy'n cael eu gwastraffu, cael eu llosgi neu difa. Gan bod fi'n mwynhau ffasiwn gymaint o'n i'n meddwl, mae'n rhaid i fi gymryd cyfrifoldeb hefyd ynglŷn â lle dwi'n gwario pres a lle dwi'n prynu dillad.
'Da ni'n gwastraffu gymaint a dwi'n meddwl mae'n rhaid i fi feddwl am ffasiwn mewn ffordd wahanol.
Ychydig flynyddoedd yn ôl 'nes i benderfynu peidio prynu unrhyw beth newydd am flwyddyn - mae Second Hand September yn para mis ond 'nes i wneud hyn am flwyddyn a 'nath e wirioneddol neud fi feddwl ble dwi'n gwario fy mhres a beth dwi'n prynu a pham dwi'n prynu.
Ac hefyd 'nath o neud i fi fod yn fwy dyfeisgar wrth ddewis dilledyn a rhoi pethau at ei gilydd.
Trysorau
Gan bod fi'n gweithio ym myd y theatr dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn gwisg a gwisgo fyny a chreu outfit gwahanol. Dwi ddim yn lico'r syniad o wisgo yr un peth a phawb arall. Dwi'n licio cyffwrdd pethau, lliw a patrwm.
Dwi'n gwerthu y dillad vintage dwi wedi casglu ar hyd y blynyddoedd, ac hefyd y dillad dwi wedi prynu a chadw.
Mae 'na gymuned vintage ffantastig ar-lein a dwi wedi dod i adnabod lot o bobl.
Dwi wedi bod yn lwcus iawn i allu teithio yn y gorffennol a phan dwi'n teithio dwi'n ffeindio ble mae'r llefydd gwerthu dillad ail-law.
Fues i'n lwcus i fyw yn Japan am flwyddyn a dwi'n cofio prynu ffrog â label Hong Hong arni hi a dwi wedi gwisgo hi dro ar ôl tro ac mae hi jest yn gwneud fi'n hapus.
O'n i'n gwisgo hi mewn eisteddfod rhyw dro a 'nath ddynes afael yn fy llaw i a dweud 'ti'n edrych yn ffabiwlys'. Am lyfli a gwnaeth hi fy niwrnod i. Mae o'n un o'r ffrogiau mae pobl yn gwneud sylw ohono.
Mae gen i siaced arall o Japan ac mae hi'n reversible - un ochr mae 'na ddau deinosor ac mae'r ochr arall yn binc. Mae 'na fap o Japan ar y cefn. Mae honno'n ffefryn hefyd - bydd honno'n dod efo fi i'r bedd.
Dwi'n mwynhau cael bargen - dwi'n cofio mynd i siop Tenovus yng Nghaerdydd a dod o hyd i got cashmere hir lliw camel ac 'oedd hi'n ffitio fel maneg.
O'n i'n meddwl, mae hon mor lyfli, yn glasurol ac alla'i gael cymaint o fywyd mas o hwn. 'Nes i sylweddoli mod i'n talu £20 amdano fo ac 'oedd o werth cannoedd - teimlad braf.
Dillad y gorffennol
Mae'r dillad wedi cael eu gwneud yn well, mae'r ansawdd yn dda. Maen nhw'n para.
Mae 'na lot o bethau fel patrymau gwahanol, deunyddiau gwahanol, lliwiau gwahanol - maen nhw jest yn unigryw ac mae rhywun yn cael pleser allan o ffeindio rhywbeth sbeshal.
Ffasiwn 'cyflym'
Mae'n eitha' trist mynd i siop elusen a gweld cymaint o ddillad sy'n dod o'r siopau fast fashion. Dyw nhw ddim yn gallu cael eu gwerthu yn y siopau elusen achos maen nhw mor rhad yn y siopau arferol beth bynnag.
Cyngor
Dyw meintiau dillad vintage ddim yn cyfateb i meintiau rŵan. Fuaswn i'n mynd â thap mesur a mesur dilledyn sy' gyda ti yn erbyn mesuriadau beth mae rhywun yn gwerthu.
Mae gen i obsesiwn efo dillad 60au ond yn aml mae defnydd polyester yn gallu ogleuo yn wael - mae eisiau gwneud yn siŵr fod o wedi cael ei olchi yn iawn. Mae dillad ail law wedi cael bywyd yn barod felly weithie mae 'na waith addasu hefyd.
Dwi'n prynu lot o frethyn Cymreig - mae gen i rhyw dri siôl sy' wastad yn mynd i fod yn boblogaidd a phara'n dda.
Ar hyn o bryd mae dillad Laura Ashley yn boblogaidd tu hwnt, yn enwedig pethau o'r 70au. Mae ffrog o'r 70au yn gallu bod yn £300.
Mae mwy o sôn hefyd am rhentu dillad - allu di rentu ffrog vintage, mae o'n ffordd wahanol o siopa a meddwl sut ydy ni'n edrych ar ffasiwn.