Perchennog cwmni teithio'n 'talu staff â'i phensiwn'
- Cyhoeddwyd
Dywed perchennog asiantaeth deithio ei bod wedi gorfod cyfnewid arian yn ei phensiwn i dalu ei staff wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben.
Mae'r cynllun - sy'n weithredol yn y DU ers dros 18 mis - yn dod i ben ddydd Iau.
Dywedodd Ann Jones, sy'n berchen ar Teithiau Menai yng Nghaernarfon: "Dydw i ddim am golli fy staff, maen nhw fel teulu ac yn helpu i redeg y busnes."
Dywed y Canghellor Rishi Sunak ei fod yn "hynod falch" o'r cynllun bron i £70bn, ond mai nawr oedd yr amser iawn i'w gau.
Cafodd ei gyflwyno ym mis Mawrth 2020 ac fe helpodd i dalu cyflog 11.6 miliwn o weithwyr ar ôl i rannau helaeth o'r economi gael eu cau oherwydd y pandemig coronafeirws.
Ddiwedd mis Gorffennaf roedd yn dal i gefnogi incwm tua 1.6m o weithwyr, yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyllid a Thollau EM (HMRC).
Diwydiant teithio 'ddim yn hawdd'
Dywed Ms Jones nad oedd hi'n "hapus" bod y cynllun yn dod i ben a'i bod wedi bod yn protestio i geisio ymestyn y cynllun trwy gydol y gaeaf.
Dywedodd ei bod prin wedi gwneud unrhyw refeniw yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Dydi o'm yn fywyd hawdd bod yn y diwydiant teithio," meddai.
Dywedodd pe bai'r llywodraeth yn parhau i leddfu cyfyngiadau teithio "bydd pethau'n symud eto".
"Mae'n mynd i gymryd y gaeaf i fi ddechrau gweld rhywfaint o refeniw cywir yn dod i'r busnes," meddai.
"Dywedodd y llywodraeth eu bod wedi rhoi cefnogaeth benodol i bob diwydiant - maen nhw wedi'i roi i'r cwmnïau hedfan, ond nid busnesau teithio bach ar y stryd fawr," meddai.
"Mae'n dorcalonnus i fi adeiladu fy musnes dros y blynyddoedd... dwi'n teimlo mod i ond yn rhif iddyn nhw ac nid yn berson."
Un fuodd ar ffyrlo am rai misoedd oedd Robin Edwards o Borthaethwy, oedd wedi bod yn rheolwr ariannol mewn gwesty yn Llandudno ers wyth mlynedd pan darodd Covid.
Cafodd ei roi ar ffyrlo ym mis Mawrth 2020 tan ddiwedd mis Hydref y llynedd.
Penderfynodd adeg hynny i gymryd diswyddiad o'i swydd yng ngwesty St George's. Fis wedyn cafodd swydd gyda Chyngor Gwynedd.
"Roedd ychydig o banig ar y pryd sut oedd pethau yn mynd i weithio allan ar y dechrau," meddai.
"Yn bersonol, o'n i methu gwneud planiau. Popeth ar hold a mynd o fis i fis. Ar ôl saith mis a hanner ro'n i wedi cael digon ac isio symud ymlaen."
Ychwanegodd: "Ar ôl gweithio yn y gwesty am wyth mlynedd, mae 'na elfen o dristwch... ond [o'n i] yn eitha' balch o fynd allan o'r diwydiant yn bersonol ac roedd yn benderfyniad iawn i adael."
Faint o bobl oedd ar ffyrlo?
Mae ffigyrau Cyllid a Thollau EM yn dangos bod 54,700 yn dal i fod ar ffyrlo yng Nghymru ym mis Gorffennaf - 25,900 o ferched a 28,700 o ddynion.
Ym mis Mehefin y llynedd, cafodd 378,400 o swyddi yng Nghymru eu rhoi ar ffyrlo a chefnogwyd 108,000 o weithwyr hunangyflogedig.
Dywedodd llefarydd ar ran Trysorlys EM: "Fe aethom yn hir yn fwriadol gyda'n cefnogaeth i ddarparu sicrwydd i bobl a busnesau dros yr haf; ac mae'r gefnogaeth honno'n parhau gyda chyfraddau busnes is a thoriadau i TAW ar waith tan fis Mawrth 2022, a'r cynllun ffyrlo yn rhedeg tan diwedd mis Medi.
"Y bwriad bob amser oedd y codiad Credyd Cynhwysol i fod yn fesur dros dro i helpu cartrefi trwy'r pandemig, ond rydym yn parhau i gefnogi pobl a sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnyn nhw i gael swyddi gwych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2021