Galw am eglurder a fydd modd mynd ar wyliau eleni

  • Cyhoeddwyd
Harbwr Dinbych-y-PysgodFfynhonnell y llun, Susan Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae economi rhai trefi glan môr Cymru, fel Dinbych-y-pysgod, yn ddibynnol ar dwristiaeth

Mae angen eglurder ar frys a fydd modd i bobl fynd ar wyliau eleni, yn ôl rhai sy'n gweithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

Yn berchen ar gwmni Teithiau Menai yng Nghaernarfon, mae Ann Jones yn galw am gyhoeddiad buan ar gyfer y farchnad gwyliau tramor.

"'Da ni angen o rŵan er mwyn i ni fedru aildrefnu gwylia' pobl sydd i fod wedi bod i ffwrdd ha' diwetha', ac maen nhw wedi aildrefnu ar gyfer ha' yma," meddai.

"Os oes 'na ddim gobaith iddyn nhw gael mynd, mae'n well i ni gael cadarnhad rŵan i ni gael aildrefnu at y flwyddyn nesa'.

"Mae gynnon ni gymaint yn bwcio rŵan at yr ha' nesa am nad ydyn nhw isio mynd y flwyddyn yma. Cynta'n byd, gora'n byd - dio'm yn deg arna ni na'r cwsmeriaid ni bo' ni ddim yn cael cadarnhad."

Disgrifiad o’r llun,

"Cynta'n byd, gora'n byd" y daw cyhoeddiad, medd Ann Jones

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi lled awgrymu y gallai rhannau o ddiwydiant twristiaeth Cymru ailagor erbyn y Pasg os yw sefyllfa'r pandemig yn gwella.

Mae hynny'n rhoi llygedyn o obaith i'r diwydiant carafanio a gwersylla.

Os fydd y drysau yn dechrau agor mae angen digon o rybudd yn ôl Angharad Rees, perchennog cwmni carafanau a moduron teithio 3 A's yng Nghaerfyrddin.

"Pan fyddwn ni'n dechre nôl bydd hi'n fishi ofnadw, felly ni mo'yn y dyddiad nawr i ni gal planno mlân," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Rees yn galw am gael digon o rybudd ynglŷn â phryd y bydd modd iddyn nhw ailagor

Dim ond y gweithdy ar gyfer gwaith cynnal a chadw sydd yn medru bod ar agor ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid.

"Ma' digon o waith 'da ni yn y workshop ar hyn o bryd, ond fel y bydd amser yn ei flaen bydd llai a llai o waith gyda ni, a falle bydd rhaid i ni roi gweithwyr ar furlough.

"Dy'n ni ddim mo'yn gwneud hynny os allwn ni helpu - licien i fynd yn syth i agor a chlatsio bant."

'Aros o leia' chwe wythnos'

Mae prisiau carafanau yn codi yn ôl Ms Rees, ac mae'n rhagweld problemau cyn hir.

"I unrhyw un sy'n meddwl prynu carafán, ma' ishe iddyn nhw wneud hynny yn glou, achos bydd yn rhaid iddyn nhw aros o leia' chwe wythnos cyn y byddan nhw wedi eu paratoi ac yn barod i'w casglu," meddai.

"Mae'r backlog yn mynd i fod yn anodd eleni eto."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dorian Morgan yn ansicr a fydd yn mynd i'r Unol Daleithiau yn ddiweddarach eleni

Mae Dorian Morgan eisoes wedi gohirio dau wyliau yr oedd i fod i'w cymryd y llynedd - un i Berlin fis Mai, a'r llall i Boston ac Efrog Newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae e'n croesi bysedd y bydd modd iddo deithio i'r Unol Daleithiau eleni.

"Mae'r trip i America i fod i ddigwydd ddiwedd Awst - falle bod hwnnw'n bosib, ond wrth gwrs ry'n ni'n dod i gwestiwn y brechu wedyn," meddai.

"A fydda i wedi cael brechiad erbyn hynny? Ydw i'n barod i fynd heb frechiad? A fydden i'n barod i fynd os fydda i 'di cael un brechiad yn unig?

"Ma' lot o gwestiynau i'w gofyn a bron iawn fod hi'n haws fod rhywun yn cymryd y penderfyniad oddi wrth rywun, yn hytrach na bo' fi wedyn yn gorfod meddwl y peth trwyddo fy hun."