Dysgu radiolegwyr gyda thechnoleg gemau cyfrifiadur

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr radiograffeg trydedd flwyddyn, Zoe Gonzales & Connie McMahon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y myfyrwyr Zoe Gonzales a Connie McMahon ymhlith y cyntaf i ddefnyddio'r system newydd

Mae technoleg rhithrealiti, sy'n gyffredin mewn gemau cyfrifiadur, yn cael ei ddefnyddio i ddysgu myfyrwyr radioleg sut i ddefnyddio pelydr-X.

Mae Prifysgol Bangor yn defnyddio cleifion rhithwir a graffeg 3D sy'n helpu'r myfyrwyr i ddysgu'n gyflymach gyda'r gobaith o daclo prinder o radiograffwyr yn y GIG.

Mantais defnyddio systemau rhithwir yw bod y myfyrwyr yn gallu osgoi dod i gysylltiad â phelydrau gama niweidiol, sy'n achosi canser.

Mae'r system yn ail-greu peiriant pelydr-X newydd yn rhithiol, gan wneud arbediad ariannol sylweddol - byddai cyfleuster newydd yn costio £250,000, tra bod y feddalwedd ond yn costio £15,000.

Bangor ymhlith y cyntaf

Cafodd y feddalwedd ei datblygu yn Seland Newydd ac mae Prifysgol Bangor ymhlith y sefydliadau cyntaf yn y DU i hyfforddi radiolegwyr efo'r system.

Roedd Connie McMahon a Zoe Gonzales, myfyrwyr trydedd flwyddyn, ymhlith y rhai cyntaf i ddefnyddio'r cyfleuster newydd.

"Mae'n ddieithr i ddechrau achos mae'n rhaid i chi arfer gyda'r offer a chael syniad o ble'r ydych chi, ond mae'n rhyfedd pa mor gyflym y mae'r ymennydd yn addasu i ble'r ydych chi," meddai Ms McMahon.

"Mae'n eich galluogi i ganolbwyntio ar eich techneg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r feddalwedd yn costio llawer iawn llai na defnyddio offer pelydr-X go iawn

Ychwanegodd Ms Gonzales: "Gynt, doedden ni ddim yn gallu tynnu lluniau pelydr-X oherwydd yr ymbelydredd, ond efo'r dechnoleg yma roeddem yn gweld y delweddau a chael profiad o bwyso'r botymau a'u datgelu.

"Rydych yn gallu gwneud y profiad o'r dechrau i'r diwedd."

Dywedodd Delyth Hughes, Arweinydd Cwrs Radiograffeg Ddiagnostig Prifysgol Bangor: "Fel pob cwrs radiograffeg rydym wedi ein cyfyngu gan faint o brofion pelydr-X gwirioneddol y gall myfyrwyr eu cynnal oherwydd y risg o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio.

"Ond mae'r system rhithrealiti newydd hon yn golygu nad yw'r cyfyngiadau hynny'n berthnasol mwyach oherwydd nad ydym yn gwneud profion pelydr-X go iawn er ein bod dal yn gallu gweld y canlyniadau o hyd.

"Un o'r pethau pwysicaf y mae'n rhaid i fyfyrwyr ei ddysgu yw sut i leoli'r peiriant fel y bydd y pelydr-X yn cael ei gymryd ar yr ongl gywir i ddangos unrhyw broblemau posib sydd gan y claf.

"Trwy ddefnyddio rhithrealiti, gall y myfyriwr leoli claf rhithiol ac yna gweld a yw wedi llwyddo heb i hynny olygu cost nac amlygiad i ymbelydredd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r system newydd yn golygu nad yw myfyrwyr yn gorfod gwneud profion pelydr-X go iawn

Ychwanegodd Delyth Hughes: "Fel arfer, byddai'n rhy beryglus i gynnal profion pelydr-X yn ddiangen, felly mae'r system yn defnyddio cleifion rhithiol.

"Mae rhithrealiti'n cynnig ffordd ddiddorol a diogel i'n myfyrwyr ddysgu ac ymarfer oherwydd bod popeth yn union yr un fath ag y mae yn y byd go iawn o ran maint, pellter a gweithdrefnau.

"Os oes angen addasu'r tiwb radiograffeg gall y myfyrwyr gerdded ato, gafael ynddo, pwyso'r botymau priodol, a'i symud.

"Mae rhithrealiti'n cynnig adborth clywedol, gweledol a synhwyraidd felly bydd y myfyrwyr yn gallu gweld a theimlo, yn union fel petaent yn gweithio gyda chlaf go iawn.

Dywedodd Jonathan Grant, darlithydd radiograffeg ym Mhrifysgol Bangor, bod prinder o radiograffwyr yn y DU ac y gallai'r cynllun hyfforddi wella'r sefyllfa.