Gemau Ail-gyfle Adran 2: Casnewydd 0-1 Morecambe

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr Casnewydd a thlws y gemau ail-gyfle yn WembleyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Casnewydd yn Wembley, lle'r oedd tlws y gemau ail-gyfle yn y fantol

Cafodd Casnewydd ergyd greulon yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Adran Dau, wrth i Morecambe eu trechu mewn amgylchiadau dadleuol, ac yn gwbl groes i rediad y gêm.

A hithau'n ddi-sgôr ar ôl 90 munud, aeth y gêm yn Wembley i hanner awr ychwanegol, ac yn ail hanner y cyfnod hwnnw daeth yr eiliad dyngedfennol.

Rhoddodd y dyfarnwr gic o'r smotyn i Morecambe, er bod nifer o'r gwybodusion oedd yn sylwebu neu'n gwylio'r gêm yn mynnu nad oedd hi'n drosedd, ac nad oedd John O'Sullivan hyd yn oed yn y cwrt cosbi p'run bynnag.

Nid oes VAR i gadarnhau penderfyniadau yn y gemau ail-gyfle, ac roedd hi'n 1-0 i Morecambe, gyda Carlos Mendes Gomes - gynt o Atletico Madrid - yn rhwydo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn eironig, roedd chwaraewyr a chefnogwyr Casnewydd yn credu'n gryf y dylai'r dyfarnwr fod wedi rhoi cic o'r smotyn iddyn nhw, wedi i golwr Morecambe, Kyle Letheren, lorio Scot Bennett yn yr hanner cyntaf. Ond gwrthododwyd eu hapêl.

Yn yr ail hanner Casnewydd oedd yn edrych fel y tîm mwyaf bygythiol o bell ffordd, a nhw greodd y rhan fwyaf o'r cyfleon yn ystod yr ornest - 23 ergyd, a phump ar y targed, i 11 ergyd ac un ar y targed i Morecambe.

Ond mae angen rhoi'r bêl yn y rhwyd i ennill gemau.