Y Bencampwriaeth: Fulham 3-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Abertawe oddi cartref yn Fulham nos Fercher wedi i Aleksandar Mitrovic sgorio hat-tric i sicrhau'r triphwynt i'r tîm cartref yn y Bencampwriaeth.
Daeth y goliau i gyd yn yr hanner cyntaf, gyda Mitrovic yn rhwydo ddwywaith, wedi 12 a 32 o funudau, cyn unig gôl Abertawe.
Daeth honno wedi 38 o funudau pan aeth ergyd droed dde Jamie Paterson o ganol y cwrt cosbi i gornel isel dde'r rhwyd.
Ond fe rwydodd Mitrovic unwaith yn rhagor ar ddiwedd yr hanner cyntaf i ailagor y bwlch rhwng y ddau dîm i'w gwneud hi'n 3-1.
Roedd yn ganlyniad siomedig i'r Elyrch, oedd heb golli nac ildio gôl mewn pum gêm cyn yr ornest yn Craven Cottage, ac sydd wedi llithro un safle i 19eg safle'r tabl.