Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 36-13 Lions

  • Cyhoeddwyd
Scarlets v LionsFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency

Roedd y Scarlets yn drech na'r Llewod o Dde Affrica yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Wener ac fe sicrhaont fuddugoliaeth o 36 i 13.

Daeth y Llewod o Dde Affrica i Lanelli i wynebu'r Scarlets yn hyderus wedi iddynt guro Zebre wythnos yn ôl. Ond roedd y Scarlets yn wrthwynebwyr llawer iawn cryfach ac nid oedd eu hasgellwr disglair yn cael llawer o le i redeg yn erbyn y Cymry.

O fewn pum munud roedd Rob Evans wedi croesi'r gwyngalch a Sam Costelow wedi trosi. Er i'r Llewod gael cic gosb, wedi ugain munud roedd y Scarlets wedi cael trosgais arall drwy Tom Rogers a throed Costelow.

Cyn hanner amser daeth dwy cic gosb arall i'r cochion ac un arall o droed Jordan Hendrikse i'r Llewod, Y sgôr ar hanner amser oedd 20-6.

Roedd y gêm yn llawer iawn mwy cyfartal am ychydig yn nechrau'r ail hanner ac fe ddaeth trosgais i'r Llewod trwy Ruben Schoeman a throed Hendrikse.

Ond fe wnaeth y Scarlets ddal eu gafael ar eu blaenoriaeth drwy ddwy gic gosb.

Yn chwarter olaf y gêm roedd rhagoriaeth y Scarlets yn amlwg iawn a daeth dau gais yn y deg munud olaf - un yn gais o un pen y cae i'r llall drwy Tom Rogers ac yna yn y funud olaf fe wnaeth Steffan Evans sgorio'r pedwerydd cais a sicrhau pwynt bonws.

Y sgôr terfynol 36-13.

Pynciau cysylltiedig