Angen 'diogelu' straeon y genhedlaeth Windrush

  • Cyhoeddwyd
Vernesta CyrilFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vernesta Cyril ei bod hi'n falch bod cymdeithas wedi cydnabod y genhedlaeth Windrush "o'r diwedd"

Mae angen diogelu straeon y genhedlaeth Windrush fel eu bod yn gallu "cael eu hadrodd am genedlaethau i ddod", yn ôl aelod o'r gymuned yng Nghymru.

Cafodd Vernesta Cyril ei geni yn 1943 yn St Lucia a threuliodd mwy na 30 mlynedd yn gweithio mewn ysbytai yng Nghymru.

Roedd hi'n siarad cyn agoriad arddangosfa sy'n adrodd hanesion mwy na 40 aelod o'r gymuned yng Nghymru.

Mae arddangosfa Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes yn agor yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ddydd Sadwrn.

Bydd yr arddangosfa wedyn yn teithio o gwmpas amgueddfeydd cenedlaethol Cymru o fis Tachwedd tan fis Mawrth.

Cyrhaeddodd llong yr Empire Windrush lannau Essex yn 1948 yn cario mwy na 1,000 o deithwyr o'r Caribî ar ôl i Brydain ofyn am fwy o weithwyr i ddod draw o'r Gymanwlad wedi'r Ail Ryfel Byd.

Dros y 40 mlynedd nesaf, dilynodd miloedd mwy yr un llwybr, gyda nifer yn dewis ymgartrefi yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Vernesta Cyril mwy na 30 mlynedd yn gweithio mewn ysbytai yng Nghymru

Bydd arddangosfa Windrush Cymru yn agor ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ms Cyril, a enillodd wobr Bydwraig y Flwyddyn yn 2006 ac OBE am ei gwasanaethau i'r GIG: "O'r diwedd mae cymdeithas yn cydnabod y genhedlaeth Windrush, felly mae ein straeon yn gallu cael eu hadrodd am genedlaethau i ddod".

Dywedodd Roma Taylor, sylfaenydd a chadeirydd y Windrush Cymru Elders: "Mae'r Windrush yn destun poenus iawn ac emosiynol ond mae'n rhaid i'n holl straeon ddod allan.

"Mae'n bwysig iddom ni, ein plant a'n wyrion ac wyresau ac ar gyfer ein hysgolion."

Fe gyrhaeddodd Ms Taylor yn y DU yn 1959 a dywedodd mai Tiger Bay yn nociau Caerdydd "oedd y lle gorau i fyw".

"Roedd pawb yna i bawb, roedd pawb yn edrych ar ôl pawb a doedd dim problemau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Roma Taylor bod y Windrush yn destun "poenus"

Yn ddiweddar roedd hanes y genhedlaeth Windrush yng Nghymru yn ffocws prosiect hanes llafar a weithredwyd gan Race Council Cymru ac arianwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r arddangosfa yma'n arddangos straeon mwy na 40 ohonom.

Mae'r straeon yn adrodd hanes y genhedlaeth y Windrush a'u disgynyddion trwy edrych ar y mathau o waith roedden nhw'n gwneud, y gyrfaoedd dilynon nhw, y plant magon nhw, a'r cyfraniadau gwnaethon nhw i'n cymunedau a'n diwylliant.

Mae'r arddangosfa wedi'i weithredu ar y cyd gan Race Council Cymru mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Werin Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Casgliad y Werin Cymru, Windrush Cymru Elders a Hanes Pobl Dduon Cymru 365.

'Cofnod parhaol' o brofiadau'r Windrush

Dywedodd Sioned Hughes pennaeth hanes cyhoeddus ac archeoleg yn Amgueddfa Werin Cymru: "Bydd yr hanesion llafar a gafodd eu recordio gan brosiect Windrush Cymru yn cael eu harchifo yn Sain Ffagan fel cofnod parhaol o brofiadau byw'r genhedlaeth Windrush yng Nghymru.

"Rydyn ni'n hynod o ddiolchgar i'r hynafiaid Windrush am rannu eu profiadau gyda ni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd yr Athro Uzo Iwobi, OBE, sylfaenydd Race Council Cymru: "Rydw i'n falch fy mod wedi cefnogi'r hynafiaid am nifer o flynyddoedd, yn clywed eu hapelion i'w straeon gael eu clywed".

"Mae'n hynod o bwysig i weld y straeon yma'n cael eu pasio lawr i'r genhedlaeth nesaf."

Pynciau cysylltiedig