Tân mewn canolfan natur am y trydydd tro mewn 12 mis
- Cyhoeddwyd
Cafodd cuddfan adar yng Nghanolfan Cadwraeth Fferm y Fforest ei losgi lawr nos Sadwrn - y trydydd tân ar y safle mewn 12 mis.
Pan ddaeth staff i'r lleoliad poblogaidd i gerddwyr a gwylwyr adar fore Sul, yr unig beth oedd ar ôl oedd to tin yr adeilad.
Yn ddiweddar cafodd bloc stablau'r ganolfan ei losgi lawr, a oedd yn cynnwys gwerth £20,000 o offer. Mae gwahanol rannau o'r safle hefyd wedi cael eu fandaleiddio yn y gorffennol.
Dywedodd un o weithwyr y safle bod e a'i gydweithwyr yn teimlo'n "ddigalon" am y sefyllfa.