Llifogydd yn taro Cymru ar ôl noson o law trwm

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd ar Heol Tregatwg yn ardal Abaty NeddFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llifogydd ar Heol Tregatwg yn ardal Abaty Nedd

Roedd yna noson "brysur iawn" i'r gwasanaeth tân wrth i nifer o gartrefi a busnesau ddioddef llifogydd wedi cyfnod o law trwm dros nos.

Fe wnaeth y gwasanaeth tân ymateb i bron i 200 o achosion yn gysylltiedig â llifogydd, gyda galwadau yn parhau i ddod tan 01:00 fore Mawrth.

Roedd rhaid i griwiau tân ddelio gyda chartrefi ac adeiladau oedd wedi gorlifo gyda dŵr ac mewn rhai achosion achub pobl oedd yn sownd yn eu ceir oherwydd llifogydd ar y ffyrdd.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi'u galw i ddigwyddiadau yng Nghydweli, Castell-nedd, Y Pîl, Porth a Mynydd Cynffig.

Mewn mannau eraill yng Nghymru roedd dros 80 o ddigwyddiadau yn gysylltiedig â llifogydd yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Caerfyrddin.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ardaloedd ym Mhontypridd ddioddef llifogydd dros nos

Roedd hefyd adroddiadau o chwe cherbyd yn mynd yn sownd yn y canolbarth a thri yn dioddef yr un broblem yn y de.

Yn ardal Pontypridd, mae fflachlifau wedi effeithio ar sawl adeilad ac mae gweithwyr cyngor wedi bod yn gweithio i glirio llaid a rwbel o'r ardal o gwmpas y Royal Oak ger Cilfynydd.

Dywedodd Donna Tibbs, sydd wedi byw yn yr ardal am 30 mlynedd, bod yna problemau wedi bod am flynyddoedd maith gyda chylfat yn yr ardal ac mae'r heol wedi dioddef llifogydd yn aml.

"Edrychais allan o'r ffenestr a galla'i weld bod y dŵr ar yr heol ac rydych chi'n gwybod yn syth bod yna lifogydd," meddai.

"Y siom neithiwr oedd dydy'r hyn mae'r cyngor wedi gwneud ddim yn ddigon."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Donna Tibbs bod yna broblem gyda llifogydd dro ar ôl tro

Fe wnaeth ardaloedd eraill yn Rhondda Cynon Taf, a oedd wedi profi llifogydd yn ystod Storm Dennis yn Chwefror 2020 - fel Rhydyfelin - ddioddef effeithiau'r tywydd gwlyb unwaith eto.

Dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, mai cylfatiau wedi'u blocio oedd ar fai am y llifogydd nos Lun.

"Mae faint o ddŵr sy'n dod lawr y bryn yn sylweddol, ond mae'r cylfatiau wedi'u dylunio i ddelio gyda gymaint â hyn o ddŵr," meddai.

"Mae'n ymddangos taw'r broblem yw bod glaw wedi cymryd tua 50 tunnell o gerrig a defnydd a chladdu'r cylfat yn llwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i weithwyr cyngor glanhau'r llanast a difrod achoswyd gan y llifogydd.

Ychwanegodd Mr Morgan bod effeithiau newid hinsawdd yn golygu bod angen mwy o fuddsoddiad i wella amddiffynfeydd llifogydd.

"Mae'r stormydd yma yn dod yn fwy ac yn fwy ffyrnig, 'da ni'n gweld glaw trymach dros gyfnodau byr ac mae'r isadeiledd presennol methu ymdopi," meddai.

"Rhaid i ni edrych i'r hir dymor, dalwyr rwbel ac adeiladu isadeiledd mwy.

"Rydym eisiau gweithio i daclo newid hinsawdd ond mae'n rhaid i ni adnabod bod ei effeithiau yn digwydd ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cartrefi yn Rhydyfelin eu difrodi gan effaith y llifogydd.

Fe dderbyniodd Aelod o'r Senedd Canolbarth De Cymru, Heledd Fychan, nifer o alwadau gan bobl yn pryderu am yr amodau.

"Dwi'n hynod o bryderus," meddai.

"'Da ni heb gael ymchwiliad i'r llifogydd [yn ystod Storm Dennis] ac unwaith eto dydy hi ddim yn aeaf go iawn eto a 'da ni'n gweld y llifogydd yma mewn cartrefi a phroblemau gyda draeniau a chylfatiau."

Dywedodd Shawn Moody, o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fod y cynnydd mewn galwadau wedi rhoi "lot o bwysau" ar griwiau dros nos.

Ond fe weithiodd y gwasanaeth yn "effeithiol" i ymateb i bob un, meddai wrth BBC Radio Wales Breakfast.

Ychwanegodd dylai pobl osgoi ardaloedd ble mae lefelau uchel o ddŵr wrth i'r gwasanaeth parhau i ddelio gyda nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â'r glaw trwm.

Pynciau cysylltiedig