Dim bwriad ail-gynnal pleidlais pàs Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog iechyd wedi dweud nad oes bwriad i ail-gynnal pleidlais ynghylch cyflwyno pàs Covid-19 yng Nghymru.
Cafodd y cynnig dadleuol ei basio brynhawn Mawrth o drwch blewyn - 28 pleidlais o blaid a 27 yn erbyn.
Roedd hynny wedi i'r AS Ceidwadol, Gareth Davies, oedd yn bwriadu gwrthod y syniad, fethu â chofnodi ar-lein mewn pryd i bleidleisio.
Fe fyddai'r cynnig wedi methu petai'r bleidlais yn gyfartal.
Dywedodd Ms Morgan ddydd Mercher y bydd Llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen gyda'r cynllun, sy'n dod i rym ddydd Llun, 11 Hydref.
Ychwanegodd bod y "rhan fwyaf o bobl yng Nghymru" yn ei gefnogi, gan ddweud ei bod "yn siomedig dros ben gydag agwedd Plaid Cymru yn y bleidlais".
Rheolau i'w dilyn
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Eluned Morgan bod y Llywydd, Elin Jones wedi rhoi cyfle i bob AS bleidleisio, gan gynnwys Gareth Davies.
"Mi 'nath hi rhoi rhif ffôn symudol personol i roi cyfle i'r person yna i alluogi iddyn nhw bleidleisio," meddai.
"Mae 'na reole, nath hi ddilyn y rheole a mae'n bwysig bo' ni'n deall hynny."
Ychwanegodd bod "byddin o bobl" yn rhoi cymorth technegol os yw Aelodau'r Senedd yn cael problemau.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Davies ei fod yn "rhwystredig ac yn grac" gyda'r sefyllfa wnaeth achosi iddo fethu pleidleisio.
"Trwy gydol y cyfnod pleidleisio, roeddwn i'n siarad gyda'r Prif Chwip ac aelodau staff y Ceidwadwyr i geisio datrys problemau technolegol," meddai.
Cadarnhaodd Mr Davies ei fod yn mynychu cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion pan gafodd y bleidlais ei chynnal.
"Byddwn i wedi medru pleidleisio o bell os oedd gen i fynediad at y system pleidleisio o bell," meddai.
"Mae pryderon wedi codi dros adran dechnolegol y Senedd a byddaf yn gwneud datganiad personol yn y Senedd prynhawn yma."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, mai dyletswydd yr ASau eu hunain yw "'neud yn siŵr ein bod ni yno mewn pryd i bleidleisio".
Ychwanegodd y bydd Plaid Cymru, a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig, yn canolbwyntio ar wella'r cynllun yn hytrach na gofyn am gynnal y bleidlais eto.
'Dyma yw democratiaeth'
Dywedodd yr AS Ceidwadol Peter Fox y byddai'n "anodd" ail-gynnal pleidlais.
"Mae gan ddemocratiaeth gyfres o brosesau, ac mae'n rhaid i chi eu dilyn," meddai AS Mynwy.
"Weithiau dydych chi ddim yn hoffi canlyniad y penderfyniad neu amgylchiadau creu penderfyniad ond democratiaeth yw democratiaeth ac os rydych chi'n dechrau erydu hynny, at beth all hynny arwain?"
Ychwanegodd Mr Fox nad yw "100% yn sicr" pam na bleidleisiodd Mr Davies ond "fe ddown ni i wybod hynny yn y 24 awr nesaf".
Nos Fercher dywedodd y llywydd Elin Jones AS: "Doedd un aelod ddim yn bresennol ar gyfer y bleidlais ar y cynigion ar gyfer pasys Covid.
"Fe roddais bob cyfle iddo fod yn bresennol gan gynnwys cymorth TGCh ond doedd hi ddim yn bosib cysylltu â'r Aelod.
"Er mwyn i Aelod bleidleisio yn y Senedd rhaid bod yn bresennol yn y Siambr neu drwy gyfrwng Zoom.
"Cyfrifoldeb yr Aelod yw caniatáu digon o amser i sicrhau y cysylltiad Zoom ar gyfer pleidleisio - fel ag y mae disgwyl i Aelod sy'n teithio i'r Senedd sicrhau digon o amser i gyrraedd ar gyfer y bleidlais."
Yn niffyg mwyafrif yn y Senedd, roedd y Llywodraeth Lafur angen sicrhau o leiaf un o bleidleisiau'r gwrthbleidiau i'r cynnig gael ei gymeradwyo.
Ond fe gadarnhaodd Plaid Cymru yn fuan cyn y bleidlais eu bod nhw, fel y gwrthbleidiau eraill, am wrthwynebu.
Pe byddai Mr Davies wedi pleidleisio yn erbyn a'r canlyniad wedi bod yn gyfartal, fe fyddai cynnig y llywodraeth wedi methu.
Anghytuno dros y system arfaethedig
Dywedodd Eluned Morgan ar Dros Frecwast ei bod "yn siomedig dros ben gydag agwedd Plaid Cymru yn y bleidlais" gan awgrymu bod y blaid yn "gofyn am fwy o gyfyngiadau".
"Pe bydden ni wedi colli'r bleidlais yna," meddai, "mi fydden ni wedi colli cyfle i 'neud rhywbeth fyddai'n help i ddiogelu pobl Cymru rhag Covid."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod dim gwrthwynebiad mewn egwyddor i ryw fath o bàs sy'n amlygu bod person yn annhebygol o fod yn heintus.
"Y broblem oedd... y diffyg tystiolaeth o'n blaena' ni yn dangos bod y model yma gafodd ei ddewis gan Lywodraeth Cymru - sy'n caniatáu i bobl ddangos canlyniad prawf llif unffordd - yn mynd i fod yn effeithiol," meddai.
"Dyna pam oeddan ni'n teimlo bod hi'n well i ni drio perswadio'r llywodraeth i fynd am fodel gwahanol."
Mewn ymateb i awgrym bod y system sydd ar fin dod i rym yng Nghymru'n rhy agored i dwyll, dywedodd Ms Morgan bod modd cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unigolion sy'n ceisio cynnig statws Covid ffug.
Ychwanegodd: "Dwi ddim yn meddwl bod pobl Cymru ar y tudalenne' 'ma o ran isie twyllo'r system. Ma'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru... yn ôl ein harolygon barn ni, ar ein ochr ni ar hwn.
"Ma' nhw isie gweld bod ni yn cymryd mesure i ddiogelu nhw."
Dadansoddiad gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Adrian Browne
Mae seneddau a llywodraethau, yn gyffredinol, yn gyndyn o ail-gynnal pleidleisiau oherwydd y posibilrwydd o dynnu helyntion mawr i'w pennau.
O ddilyn y fath gam yn yr achos hwn, mae'n anodd peidio dychmygu gwleidyddion yn galw, fel mater o drefn, am bleidleisio eto ar amryw faterion, gan gynnig dadleuon clyfar, neu rai llai dyfeisgar, ynglŷn â pham.
Mae awdurdodau'r Senedd yn mynnu nad oedd methiant ar eu rhan nhw o ran caniatáu cyfle teg i bob aelod fwrw pleidlais ar y cynnig pasys Covid, ac felly does dim dadl o blaid ei hail-gynnal.
Maen nhw'n dweud mai yn yr achos hwn, ni wnaeth AS Ceidwadol penodol, Gareth Davies, wneud yr hyn roedd angen iddo wneud er mwyn pleidleisio.
Mae camgymeriadau'n codi wrth bleidleisio o dro i dro, ond maen nhw'n tueddu i osgoi denu sylw'r cyhoedd oherwydd does dim effaith o bwys fel arfer yn eu sgil.
Roedd cryn ddifyrrwch 15 mlynedd yn ôl, fodd bynnag, wedi i'r Gweinidog Iechyd ar y pryd, Dr Brian Gibbons, bwyso'r botwm anghywir.
O ganlyniad, a gyda chymorth cyd-aelod a fethodd â phleidleisio gyda'r Blaid Lafur, fe bleidleisiodd yn ddamweiniol o blaid ymchwiliad i gyflwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Sefyll wnaeth canlyniad y bleidlais honno ac mae'r holl arwyddion yn awgrymu y bydd yr un peth yn digwydd yn achos y bleidlais pasys Covid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021