Aelodau'r Senedd yn pleidleisio o blaid cyflwyno pàs Covid
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau'r Senedd wedi pleidleisio o blaid cyflwyno pàs Covid-19 yng Nghymru.
O 11 Hydref ymlaen bydd angen pas sy'n dangos os ydy rhywun wedi'i frechu'n llawn neu os ydyn nhw wedi cael prawf negyddol diweddar i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos.
Roedd y cynllun yn ymddangos fel petai'n y fantol yn gynharach ddydd Mawrth ar ôl i Blaid Cymru ddweud y bydden nhw'n pleidleisio yn erbyn y syniad.
Roedd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn gwrthwynebu.
Ond fe bleidleisiodd 28 o aelodau o blaid y cynnig nos Fawrth, gyda 27 yn gwrthwynebu.
Dywedodd ffynhonnell Geidwadol nad oedd aelod o'r grŵp wedi gallu mewngofnodi i gymryd rhan yn y bleidlais.
Pe bai pob AS o'r gwrthbleidiau wedi cymryd rhan byddai'r llywodraeth wedi colli gyda nifer y pleidleisiau'n gyfartal.
Yn ôl y gweinidog iechyd, Eluned Morgan, fe fyddai gwrthwynebu'r cynnig wedi bod yn "anghyfrifol o ran iechyd y cyhoedd".
Dywed cynrychiolwyr ar ran y diwydiant clybiau nos bod y cyfan yn "llanast".
"Yn anffodus, mae'r rheoliadau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn codi mwy o gwestiynau nag y maent yn eu hateb," meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.
"Nid oes tystiolaeth ddigonol ac ychydig iawn o fanylion sydd ar gael ar sut y bydd yn gweithio'n ymarferol. Yn benodol, mae'r elfen prawf cyflym yn gwneud y system yn agored i'w hecsbloetio.
"Rydyn ni wedi gofyn llawer o gwestiynau ac nid ydym wedi derbyn y sicrwydd roedd ei angen. Ac am y rheswm hyn rydym yn teimlo na allwn gefnogi'r rheoliadau hyn heddiw."
'Angen sicrhau cysylltiad Zoom mewn da bryd'
Cyn y bleidlais roedd hi'n bosib clywed Darren Millar AS yn dweud wrth y llywydd Elin Jones: "Rwy'n ymddiheuro ond mae un o'n haelodau yn ceisio cael fewn i Zoom."
Dywedodd Elin Jones wrth Mr Millar: "Ry'n yn cynnal y bleidlais os gwelwch yn dda. Ry'n wedi gwneud ein gorau i gynnwys yr Aelod a nodwyd gan gynnwys rhannu fy ffôn bersonol."
Fe ddangosodd y bleidlais nad oedd Gareth Davies, AS Dyffryn Clwyd, wedi pleidleisio.
Nos Fercher dywedodd y llywydd Elin Jones AS: "Doedd un aelod ddim yn bresennol ar gyfer y bleidlais ar y cynigion ar gyfer pasys Covid. Fe roddais bob cyfle iddo fod yn bresennol gan gynnwys cymorth TGCh ond doedd hi ddim yn bosib cysylltu â'r Aelod.
"Er mwyn i Aelod bleidleisio yn y Senedd rhaid bod yn bresennol yn y Siambr neu drwy gyfrwng Zoom. Cyfrifoldeb yr Aelod yw caniatáu digon o amser i sicrhau y cysylltiad Zoom ar gyfer pleidleisio - fel ag y mae disgwyl i Aelod sy'n teithio i'r Senedd sicrhau digon o amser i gyrraedd ar gyfer y bleidlais."
Dywed y llywodraeth bod pasys Covid yn un o nifer o fesurau a allai helpu i gadw cyfraddau coronafeirws mor isel â phosib.
Morgan: 'Cyhoedd ar ein hochr ni'
Mae'r Alban yn bwriadu cyflwyno pasbortau brechu o 18 Hydref, er bod rhai pobl yno wedi wynebu trafferthion mawr wrth geisio lawrlwytho ap penodol.
Wrth siarad yn y Senedd yn gynharach, dywedodd llefarydd iechyd Ceidwadwyr Cymru, Russell George, fod pasys Covid wedi bod yn "drychineb llwyr" yn yr Alban.
Rhybuddiodd y byddai dod â phasys i mewn yng Nghymru yn peryglu troi'r genedl yn "gymdeithas ddwy haen" ac yn "tanseilio rhyddid dewis".
Mae pasys o'r fath "yn cael effaith niweidiol ar gymhelliant a pharodrwydd pobl i gael brechiad", meddai.
Wrth gloi'r ddadl yn y Senedd yn gynharach ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Bydd peidio â chefnogi'r mesur hwn heddiw yn weithred anghyfrifol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
"Bydd y mesur hwn yn caniatáu i'r cyfleusterau aros ar agor yn wyneb un o'r gaeafau mwyaf heriol yr ydym eto i'w wynebu. Mae'r cyhoedd ar ein hochr ni ar hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021