Cwnstabl yr heddlu yn cyfaddef iddo dorri rheolau Covid

  • Cyhoeddwyd
Mark Lee
Disgrifiad o’r llun,

Fe blediodd Mark Lee yn euog i'r cyhuddiad yn ei erbyn

Efallai y bydd cwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn colli ei swydd ar ôl torri rheolau Covid yn ystod cyfnod clo y llynedd.

Dywedodd Mark Lee, 43, nad oedd yn ymwybodol o reoliadau diweddar pan aeth am dro gyda'i bartner 20 milltir o'i gartref ar 29 Rhagfyr 2020.

Dywedodd wrth ei gydweithiwr nad oedd yn ynysu ar ôl ei brawf Covid positif gan nad oedd ganddo unrhyw symptomau.

Cafodd dau gyhuddiad arall eu gollwng pan na wnaeth yr erlyniad gynnig unrhyw dystiolaeth.

Cyfaddefodd Lee gyhuddiad o dorri Rheol 37 o Gyfyngiadau Coronafeirws Cymru 2020 yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.

Roedd wedi bod yn cerdded gyda'i bartner a'i phlentyn yng Nghwm Idwal yn Eryri tua 20 milltir o'i gartref ym Mae Colwyn.

'Brwydro iechyd meddwl'

Dywedodd Richard Orme ar ran yr amddiffyn: "Mae ei bledio'n euog i bob pwrpas yn dod â'i gyflogaeth gyda'r heddlu i ben - swydd y mae wedi'i chyflawni ers blynyddoedd lawer.

"Roedd Mark Lee yn brwydro am beth amser yn erbyn ei fwganod ei hun, gan ddioddef gyda materion iechyd meddwl.

"Mae'n amlwg y gallai fod wedi mynd am ymarfer corff mewn lleoliad yn agosach at ble roedd yn byw. Y ddedfryd fwyaf iddo yw colli cyflogaeth.

"Mae'n ymddiheuro oherwydd ei fod yn ymwybodol bod swyddogion eraill wedi rhoi tocynnau am droseddau tebyg."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Lee wedi bod yn cerdded yn ardal Cwm Idwal, Eryri

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru fod "yr heddlu yn mynnu fod pob swyddog a aelod o staff yn ymddwyn o fewn y gyfraith bob amser."

Ychwanegodd y llu: "Atgyfnerthwyd y neges hon yn fewnol ar sawl achlysur yn ystod y pandemig, er mwyn amddiffyn ein cymunedau ledled gogledd Cymru.

"Nawr bod y llys wedi delio â'r mater, bydd yn destun adolygiad pellach gan Adran Safonau Proffesiynol yr heddlu."

Dywedodd y Barnwr Rhanbarth, Gwyn Jones, wrtho fod yn rhaid i bawb wneud ymarfer corff heb ddefnyddio cerbydau i deithio.

"Bryd hynny roedd yn ddifrifol oherwydd roedden ni i gyd mewn cyfnod anodd pan oedd Covid-19 yn mynd trwy ein cymunedau," meddai.

Cafodd Lee orchymyn i dalu dirwy o £600, gyda £700 o gostau a gordal o £60.