Cam ymlaen i'r syniad o ehangu maint y Senedd
- Cyhoeddwyd
Bydd grŵp trawsbleidiol newydd yn edrych ar newidiadau posib i'r Senedd, fyddai'n cynnwys mwy o aelodau ac adolygiad o'r ffordd y maent yn cael eu hethol.
Mae disgwyl i'r pwyllgor edrych hefyd ar ffyrdd o wella amrywioldeb ymhlith aelodau.
Tasg gynta'r grŵp fydd creu polisïau er mwyn llunio mesur seneddol i ddiwygio'r Senedd, a chynyddu'r aelodaeth o 60 i 90.
Cafodd y syniad ei grybwyll mewn adroddiad ar y cyd gan aelodau Llafur a Phlaid Cymru o'r Senedd y llynedd.
'Tystiolaeth gref o blaid'
Mae disgwyl i'r Pwyllgor ar Ddiwygio'r Senedd gyhoeddi ei argymhellion ar gyfer mesur seneddol erbyn 31 Mai 2022, cyn yr etholiadau nesaf yn 2026.
Mae'r Ceidwadwyr wedi ymuno â'r grŵp, er iddynt foicotio'r pwyllgor a ysgrifennodd yr adroddiad a mynegi eu gwrthwynebiad i'r syniad pan gafodd ei grybwyll, gan ddweud y dylid canolbwyntio ar adfer y wlad ar ôl coronafeirws.
Ddydd Iau, dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion cyfansoddiadol, ei bod yn hanfodol i bob plaid yn y Senedd ymuno yn y drafodaeth ar y mater hwn gan fod posibilrwydd o newid y drefn cyn yr etholiadau nesaf.
Wrth groesawu ffurfio'r grŵp trawsbleidiol, dywedodd y Llywydd, Elin Jones: "Rydym wedi clywed tystiolaeth gref gan arbenigwyr fod angen i'r Senedd newid.
"Bydd ein pwyllgor newydd yn ein helpu i sicrhau bod ein senedd yn ddigon mawr i gyflawni ei dyletswyddau pwysig, a'i bod yn adlewyrchu poblogaeth Cymru, a bod ei threfn etholiadol yn cynrychioli ewyllys yr etholwyr."
Dywedodd yr aelod Llafur, Huw Irranca-Davies, a fydd yn cadeirio'r pwyllgor: "Mae'r pandemig wedi tanlinellu pwysigrwydd y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru.
"Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda phob plaid i gyrraedd consensws ynglŷn â sut i adeiladu Senedd gryfach i gynrychioli pobl Cymru a dal Llywodraeth Cymru i gyfrif."
Bydd creu system i adolygu ffiniau etholiadol a'r ffordd y mae seddi'n cael eu dosbarthu, hefyd yn rhan o dasgau'r pwyllgor.
Cafodd galwadau i ehangu'r Senedd gefnogaeth y prif weinidog, Mark Drakeford, ym mis Mai, pan ddywedodd fod nifer o aelodau'r gwahanol bleidiau yn cefnogi'r syniad.
Byddai cynyddu'r aelodaeth i 90 aelod yn dod â'r Senedd yn gyfartal gyda Chynulliad Gogledd Iwerddon o ran nifer.
Mae gan Senedd Yr Alban 129 o aelodau.
£12m yn rhagor
Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi senedd fwy, ond yn mynnu bod angen newid y system etholiadol er mwyn adlewyrchu'r ffordd y mae'r bleidlais yn cael ei rhannu rhwng y pleidiau mewn dull tecach.
Mae'r materion hyn yn debygol o gael lle amlwg yn y trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru dros greu 'cytundeb cydweithredu' posib yn y Senedd.
Byddai unrhyw newid yn nhrefniadaeth y Senedd angen cefnogaeth o leiaf 40 o ASau.
Amcangyfrifir y byddai 30 aelod ychwanegol yn costio £12m yn rhagor bob blwyddyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd15 Medi 2021
- Cyhoeddwyd10 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020