Drakeford wedi cefnogi galwadau i ehangu maint y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cefnogi galwadau i ehangu maint y Senedd.
Dywedodd Mark Drakeford fod "brwdfrydedd cynyddol" dros gael deddfwrfa yng Nghymru "sy'n gymwys i gyflawni ei chyfrifoldebau".
Y llynedd daeth aelodau Llafur a Phlaid Cymru ar un o bwyllgorau'r Senedd i'r casgliad y dylai'r sefydliad ehangu i hyd at 90 o wleidyddion, o'r 60 presennol.
Boicotiwyd y pwyllgor gan y Ceidwadwyr a Phlaid Brexit.
Wrth ymateb i sylwadau Mr Drakeford, dywedodd y Ceidwadwyr y dylai Senedd Cymru "ganolbwyntio yn llwyr ar adferiad Cymru o'r coronafeirws", yn hytrach nag ar wneud y Senedd yn fwy.
Y llynedd fe amlinellodd y Llywydd, Elin Jones amcangyfrif y byddai Senedd gyda 90 o aelodau'n costio £11.7m yn ychwanegol y flwyddyn, a £12.9m ymhob blwyddyn etholiad.
Byddai angen i o leiaf 40 aelod - dau draean - gefnogi unrhyw newidiadau iddyn nhw gael eu pasio.
Angen consensws
Daeth sylwadau Mr Drakeford mewn cyfweliad gyda BBC Cymru ar drothwy cyfarfod cynta'r Senedd ers iddo gael ei ailbenodi fel Prif Weinidog Cymru ar ôl i'w blaid ennill 30 sedd ar y 6 Mai.
Yr unig blaid fawr i gefnogi'n swyddogol adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd - Diwygio'r Senedd: y Camau Nesaf, dolen allanol - oedd Plaid Cymru.
Galwodd yr adolygiad hefyd am ddefnyddio dull fwy cyfrannol yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, gan y byddai newid i nifer yr aelodau hefyd yn golygu addasiadau i'r system etholiadol.
Rhybuddiodd yr adroddiad, os oedd y newidiadau i ddod i rym mewn pryd ar gyfer yr etholiad hwnnw, bod angen sefydlu "consensws ar y cynigion diwygio" yn "gynnar iawn" yn nhymor newydd y Senedd.
Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru y byddai i fyny i'r Blaid Lafur "gymryd barn", ond "rwy'n credu bod yna deimlad ar draws y pleidiau yn y Senedd bod angen ymafael â'r mater anodd hwn o wneud y Senedd yn addas ar gyfer y cyfrifoldebau y mae bellach yn eu cyflawni".
"Mae'n gorff gwahanol iawn i'r un a ffurfiwyd ym 1999," meddai, gan gyfeirio at y diffyg pwerau deddfu cynradd a chodi treth oedd gan Gynulliad Cymru ar y pryd.
"Dywedodd Ivor Richard yn ei adroddiad yn 2003 fod angen mwy o aelodau ar y Senedd i wneud y gwaith y gofynnir iddi ei wneud dros Gymru.
"Nawr rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod ymarferoldeb hynny yn cael ei ddeall yn iawn ac, os oes momentwm ar ei gyfer, nid mater i'r Llywodraeth yw bwrw ymlaen â hyn, mater i'r Senedd ei hun ydyw."
Rhannu brwdfrydedd
Dywedodd y Prif Weinidog fod "brwdfrydedd ymhlith nifer cynyddol o aelodau" dros newid.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn rhannu'r brwdfrydedd hwnnw, dywedodd Mr Drakeford: "Ydw, rwyf am weld Senedd sy'n gymwys i gyflawni ei chyfrifoldebau."
Dywedodd fod y siawns o gael Senedd fwy yn 2026 "wedi gwella o ganlyniad i'r etholiad, a'i fod yn fater nid yn unig o niferoedd ond mae'n fater o ddull etholiadol hefyd, sy'n fater dyrys gyda sawl barn".
"Felly mae yna faterion ymarferol sylweddol i weithio drwyddynt o hyd. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn bwrw ymlaen ag ef."
Enillodd y Ceidwadwyr 16 sedd yn yr etholiad y mis hwn - eu cyfanswm uchaf - gydag addewid yn eu maniffesto i beidio ag ehangu maint Senedd Cymru.
Wrth ymateb i sylwadau'r Prif Weinidog, dywedodd arweinydd y Torïaid yn y Senedd, Andrew RT Davies, fod Mr Drakeford "wedi gwneud camgymeriad", a thaw "dim ond Llafur a Phlaid Cymru sydd ag awydd i greu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd".
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir y dylai'r tymor seneddol hwn ganolbwyntio'n llwyr ar adferiad Cymru o'r coronafeirws, nid cynyddu maint y Senedd," meddai.
"Mae'n anffodus, dim ond cwpl o wythnosau ers y diwrnod pleidleisio, bod hyn yn ymddangos ar yr agenda wleidyddol pan ddylai'r egni i gyd fod wedi ei gyfeirio at arbed swyddi, mynd i'r afael â rhestrau aros a sicrhau bod ein plant yn dal i fyny ar eu haddysg a gollwyd dros y flwyddyn ddiwethaf."
Enillodd Plaid Cymru 13 o seddi yn Senedd yn yr etholiad, ac o'u hychwanegu at y 30 aelod Llafur yn y siamb fe fyddai'n bosib cyrraedd y trothwy angenrheidiol, sef 40 o bleidleisiau o blaid ehangu'r Senedd.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Rydym yn gwybod ers cryn amser bod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd i gyflawni ei rôl o ddwyn llywodraeth y dydd i gyfri.
"Mae Plaid Cymru'n cefnogi sicrhau'r gynrychiolaeth ddemocrataidd y mae Cymru'n ei haeddu - ac angen - a sicrhau bod ein Senedd, a democratiaeth yn ehangach, yn adlewyrchu ein cenedl fodern amrywiol ynghyd â lleisiau a dyheadau holl ddinasyddion Cymru.
"Mae hynny'n golygu mynnu mwy o bwerau ar frys ar gyfer Senedd mwy a chryfach, a rhoi mewn grym system bleidleisio decach ar ffurf STV (Pleidlais Unigol Drosglwyddadwy)."
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Mae angen trwsio ein system wleidyddol - ni fydd newid un agwedd yn unig yn ei thrwsio, mae angen i ni edrych ar yr holl broses.
"Mae'r sylwadau heddiw gan y Prif Weinidog yn galonogol a gobeithio y bydd yn driw i'w air.
"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn barod i weithio gyda phleidiau eraill er mwyn cynyddu nifer Aelodau'r Senedd o 20-30 yn unol ag Adolygiad McAllister 2017.
"Dylai'r opsiwn hwn gael ei wneud yn gost niwtral oherwydd y gostyngiad arfaethedig yn nifer ASau San Steffan gan Lywodraeth y DU.
"Byddai cynyddu nifer yr Aelodau Senedd, tra'n darparu mwy o graffu a lleisiau, yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at drwsio a chryfhau ein system wleidyddol.
"Dylai unrhyw newid i nifer yr Aelodau hefyd fynd law yn llaw â chyflwyno system bleidleisio gyfrannol ar gyfer etholiadau'r Senedd i sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif a bod pob aelod yn cael ei ethol gan fwyafrif y pleidleiswyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017