Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 13-27 Sharks

  • Cyhoeddwyd
Gweilch yn erbyn y SharksFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cafodd y Gweilch siom nos Wener wrth fethu â sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol ar ddechrau'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig, serch ymddangosiad cyntaf capten Cymru, Alun Wyn Jones i'r rhanbarth ers taith y Llewod.

Sgoriodd Gareth Anscombe bwyntiau cyntaf y gêm gyda dwy gic gosb, wnaeth ymestyn ei record gicio berffaith ers dechrau'r tymor - 13 allan o 13.

Ond fe wnaeth dwy gic adlam Boeta Chamberlain wneud hi'n gyfartal 6-6 cyn i'r Sharks fynd ati i agor bwlch sylweddol.

Roedd yna geisiau yn yr ail hanner i'r gwrthwynebwyr o Dde Affrica gan Jeremy Ward a Marnus Potgieter, trydedd gic adlam gan Chamberlain a chic gosb gan Ruan Pienaar.

Sgoriodd Gareth Thomas gais gysur hwyr i'r Gweilch ac fe ychwanegodd Stephen Myler at y pwyntiau gyda'i drosiad i wneud y sgôr yn 13-24.

Ond fe gafodd y tîm ei gosbi'n haeddiannol am gamgymeriadau diangen drwy'r gêm a'r Sharks gafodd y gair olaf.

Y sgôr terfynol, wedi cic gosb olaf Pienaar, oedd 13-27 gan sicrhau buddugoliaeth gyntaf y Sharks yn y bencampwriaeth.

Pynciau cysylltiedig