Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 19-29 Bulls

  • Cyhoeddwyd
Josh NavidiFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd newyddion drwg i Gymru wrth i Josh Navidi adael y maes wedi dim ond wyth munud gydag anaf

Cafodd Rygbi Caerdydd eu trechu gan y Bulls ar Barc yr Arfau nos Sadwrn, gyda'r gêm yn troi ar ei phen yn yr ail hanner.

Er gwaethaf cerdyn melyn i Seb Davies ac anaf cynnar i Josh Navidi, fe gymrodd Caerdydd reolaeth o'r gêm gyda chicio cywir gan Rhys Priestland.

Daeth unig gais yr hanner cyntaf gan y clo Matthew Screech, wrth i'r tîm cartref adeiladu mantais o 16-3 erbyn yr egwyl.

Ond fe wnaeth y Bulls daro 'nôl ar ddechrau'r ail hanner, gyda chais Elrigh Louw a gôl gosb Chris Smith yn gostwng mantais y tîm cartref i dri phwynt.

Ychwanegodd yr asgellwr Madosh Tambwe ail gais i'r Bulls wedi 60 munud i'w rhoi ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm, cyn i dair gôl gosb arall gan Smith selio'r fuddugoliaeth i'r clwb o Dde Affrica.

Pynciau cysylltiedig