Dyn wedi'i anafu ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Heol Hannah
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad difrifol ar y dyn 47 oed ar Heol Hannah yn Nhre-biwt

Mae dyn wedi cael ei anafu ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd yn oriau mân fore Sadwrn.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad difrifol ar y dyn 47 oed ar Heol Hannah yn Nhre-biwt am tua 01:30, meddai Heddlu De Cymru.

Dywedodd y llu eu bod wedi cynyddu eu presenoldeb yn yr ardal ac yn apelio am dystion.

Does neb wedi'u harestio hyd yma.

Mae'r dyn yn derbyn triniaeth am ei anafiadau, ond dywedodd yr heddlu nad yw ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu ei fywyd.

Pynciau cysylltiedig