'Pris uwch ynni'n gwneud i mi deimlo'n eithaf sâl'

  • Cyhoeddwyd
Gweithiwr ffatri nwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl rhybudd bod prisiau popeth yn debygol o godi yn sgil y cynnydd ym mhris ynni

Wrth i brisiau ynni barhau i godi, mae diwydiannau trwm a mawr wedi bod yn teimlo'r effaith.

Ond mae'r wasgfa hefyd yn debygol o effeithio ar gwmnïau llai yng Nghymru.

Mae rhai yn teimlo'r effaith uniongyrchol ar unwaith, tra bo eraill sydd ar gytundeb ynni sefydlog yn ceisio paratoi.

Un o'r cwmnïau hynny ydy bragdy Wrexham Lager.

Er eu bod nhw ar gytundeb sefydlog am flwyddyn, maen nhw'n ofni y gallai eu bil ynni godi'n sylweddol pan fydd rhaid cael cytundeb newydd, yn ôl un o'r cyfarwyddwyr, Mark Roberts.

Disgrifiad o’r llun,

Mae meddwl am orfod pasio costau uwch i gwsmeriaid yn gwneud i Mark Roberts "deimlo'n eithaf sâl"

"Mae bragu angen llawer o stêm, felly angen nwy i danio'r boiler," meddai.

"Mi fydd y cytundeb yn gorffen ddiwedd y flwyddyn nesaf felly wedyn mi fydd yna gynnydd enfawr.

"Mae bragu bum diwrnod yr wythnos yn costio rhyw £2,000 y mis mewn ynni, ond fel mae pethau ar hyn o bryd, mi allai hynny godi i £6,000 neu £8,000.

"Mae'n gwneud i mi deimlo'n eithaf sâl achos, yn y pendraw bydd rhaid i ni drosglwyddo'r gost i'r cwsmeriaid. Mae rhaid i ni gyfro costau a gwneud elw."

Cyfnod anodd

Mae Dr Carol Bell yn arbenigo ar y sector ynni ac yn dweud ei bod hi'n amser "anodd iawn" i ddiwydiannau.

"Mae pris nwy i ddiwydiant wedi cynyddu bum gwaith dros y flwyddyn yma," meddai.

"Ry'n ni fel unigolion hefyd yn ddioddef, mae prisiau wedi mynd lan 12%, ond dyw hynny'n ddim byd i gymharu â beth mae diwydiant yn gorfod wynebu."

Disgrifiad o’r llun,

Fe all y tywydd wneud y sefyllfa'n well neu'n waeth, medd y Dr Carol Bell

Yn ôl Dr Bell, mae'n anodd darogan am ba hyd y bydd y sefyllfa'n parhau.

"Mae'n dibynnu a fydd pibell newydd o Rwsia i'r Almaen yn cael ei hagor a'i chaniatáu yn gyflym, ac mae hynny'n beth gwleidyddol dros ben," meddai.

"Yr ail beth yw'r tywydd. Os gewn ni aeaf mwyn a digon o wynt falle y daw prisiau nwy i lawr ychydig bach.

"Mae'n dibynnu ar wleidyddiaeth ac ar y tywydd ac yn anffodus mae hynny'n rhywbeth anodd iawn i'w ragweld."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r prisiau ynni uchel cyfredol yn symptom o or-ddibyniaeth ar danwydd ffosil wedi'i fewnforio ac mae angen i ni symud tuag at system ynni adnewyddadwy, lleol a hyblyg.

"Nid yn unig y bydd hyn yn creu trydan glan, bydd yn creu cyfleoedd i gadwyni cyflenwi Cymreig a chyflogaeth leol, tra'n gwarchod rhag codiadau pris byd-eang y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig