200 mlynedd ers adeiladu goleudy 'chwyldroadol' Enlli
- Cyhoeddwyd
Cafodd goleudy Ynys Enlli ei adeiladu union 200 mlynedd yn ôl i eleni i sicrhau taith ddiogel i forwyr dros un o swntiau peryclaf y byd.
Mae'n dal yn weithredol dan oruchwyliaeth Trinity House, ond mae'r gofalwr presennol, Colin Evans yn egluro pwysigrwydd hanfodol y goleudy i forwyr y gorffennol.
Cafodd y goleudy ei adeiladu ar Drwyn Diben yr ynys gan Joseph Nelson, dyn a oedd yn enwog am adeiladu sawl goleudy tebyg ar hyd Môr Hafren.
Fe gludwyd y graig o Draeth Coch yn Ynys Môn er mwyn adeiladu'r tŵr, sy'n mesur 30.2m o daldra, y talaf o'i fath ar ynysoedd Prydain.
Mae'r adeilad yn unigryw hefyd gan ei fod yn sgwâr, yn wahanol i'r math o oleudai traddodiadol, ac mae wedi'i beintio'n streipiau coch a gwyn.
Ar un cyfnod yn 1881 roedd 21 o bobl yn byw ar y safle yng nghysgod y goleudy. Roedden nhw'n dri theulu, gyda naw o blant, i gyd yn gyfrifol am weithio fel ceidwaid y goleudy ac am y corn niwl.
Mae Colin Evans yn egluro fod "llongau o hyd yn cael eu dryllio cyn dyfodiad y goleudy".
Ynyswyr amheus
Roedd y llwybr yn un poblogaidd a phrysur i longau masnachol oedd ar eu ffordd i mewn ac allan o borthladd Lerpwl, gyda llanw Bae Ceredigion yn profi i fod yn un heriol.
Fel un sy'n brofiadol iawn yn cludo teithwyr i'r ynys mewn cwch, mae Colin Evans yn dweud na allai ddychmygu sut brofiad fyddai ceisio llywio cwch yn y tywyllwch yn y dyddiau cyn adeiladu'r goleudy.
"Ar ôl adeiladu'r goleudy, roedd y llongwyr, am y tro cyntaf, yn gwybod ble roedden nhw, ac roedden nhw'n gallu osgoi'r creigiau, roedd o'n adnodd hynod o bwysig i drafnidiaeth forol yn yr oes a fu," meddai.
Yn ôl cofnodion hanesyddol, roedd y berthynas rhwng ceidwaid y goleudy a thrigolion eraill oedd yn byw ar yr ynys yn un dda.
Roedd y ceidwaid yn cael eu penodi gan Trinity House, ac ambell waith doedden nhw methu siarad Cymraeg.
Mae cofnod yn nodi i bregethwr yr ynys, Y Parch W.T. Jones, orfod cynnal gwasanaethau ychwanegol ar y Sul yn Saesneg er mwyn i geidwaid y goleudy a'u teuluoedd allu mynychu gwasanaeth crefyddol.
Ar y cychwyn roedd yr ynyswyr yn amheus o'r teuluoedd Saesneg, ond fe dyfodd y berthynas, gyda'r prif geidwad yn gweithio ar yr ynys am gyfnod o ddeng mlynedd.
'Symbol o Enlli'
Weithiau doedd teuluoedd rhai o'r ceidwaid ddim yn byw gyda nhw, ond yn hytrach, yn ymweld yn achlysurol gan anfon eu plant i'r ysgol ar yr ynys.
Erbyn hyn does dim ceidwad parhaol yn byw ar yr ynys. Mae'r goleudy yn gwbl weithredol drwy ynni solar.
Mae'r golau coch yn fflachio pob deg eiliad ar ôl iddi dywyllu, ac mae'r corn niwl bellach wedi ei diffodd gan nad oes gofyn amdano mwyach.
Mae Caroline Jones yn gweithio fel swyddog gweinyddol Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ac mae hi'n disgrifio'r goleudy fel un o 'symbolau Enlli.'
"Yn aml iawn mae pobl yn dod yma ac maen nhw'n cysylltu'r ynys gyda'r goleudy enwog, mae'n un o brif symbolau Enlli, ac yn adnodd hynod o bwysig i hanes yr ynys," meddai.
Colin Jones sydd bellach yn gofalu am gynnal a chadw'r goleudy ar ran Trinity House, ac mae wrth ei fodd yn edrych allan dros Fae Ceredigion ac o amgylch yr arfordir ar ddiwrnod braf.
"Tydi'r goleudy ddim yn agored i'r cyhoedd, ond dwi'n lwcus iawn, yn rhinwedd fy rôl gyda'r goleudy, dwi'n cael mynd i dop y tŵr ac mae'r golygfeydd yn anhygoel," meddai.
"Ar ddiwrnod clir ac o'r top rydach chi'n gweld y cwbl o Fae Ceredigion, yr holl ffordd lawr i Sir Benfro a throsodd i'r Iwerddon sydd tua 60 milltir o fan hyn.
"Fedrwch chi sbïo i fyny am drwyn Pen Llŷn, yr holl ffordd i Sir Fôn a Chaergybi, ac mae modd gweld y llong hefyd yn hwylio o Gaergybi am yr Iwerddon ar ddiwrnod braf."
Hefyd o ddiddordeb: