'Bywyd syml Ynys Enlli yn denu mwy o bobl'
- Cyhoeddwyd
Does yna ddim dŵr cynnes, trydan, cawod na Wi-Fi, ond mae bywyd syml Ynys Enlli yn apelio at fwy o bobl, yn ôl cadeirydd ymddiriedolaeth yr ynys.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Siân Stacey bod "mwy o bobl yn dewis cael digital detox".
Mae'n dweud bod yr ynys yn "donic" i nifer, ac yn cynnig teimlad o ddiogelwch sy'n "fwy pwysig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf".
Dywedodd: "Yn y blynyddoedd diwethaf mae mwy o bobl wedi bod yn chwilio am y bywyd syml - mae bywyd yma mor dawel ac mae modd gweld byd natur a chadwraeth ar eu gorau.
"O'ch hamgylch mae'r morloi llwyd, brain coesgoch, adar drycin Manaw - mae'r cyfan yn fraint i wrando arno ac i wylio.
"Mae pobl yn mynd i Enlli am reset o sŵn y byd a'i bethau ac i wrando ar synau Enlli."
"Fel arfer mae ryw 50 o welyau i bobl ar yr ynys," meddai, ond mae'r cynnydd yn y galw yn golygu nad oes lle i aros ar yr ynys nes 2023.
"Fel mae pethau ar hyn o bryd mae pob llety ar gyfer 2022 yn llawn - ond falle bydd mwy o lefydd ar gael wrth i ni ddisgwyl manylion am arian i adnewyddu rhai o'r tai."
Heb wres cyson yn y tai, sy'n "eithaf hen", mae "tipyn o waith cynnal a chadw" ar yr ynys.
"Yn aml mae angen trwsio lloriau, paentio ffenestri a chael gwared â lleithder," meddai Ms Stacey.
"Felly roedd digon o waith i gadw'r wardeniaid yn brysur yn ystod 2020 cyn bod hawl i ni ailagor y tai."
Roedd yr holl waith yn golygu na fu'n rhaid rhoi staff ar ffyrlo yn ystod y pandemig, ond mae'r cyfyngiadau coronafeirws wedi cael cryn effaith ar goffrau Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.
"Mae'r pandemig wedi arwain at nifer o newidiadau, o ran y broses lanhau, i dîm y wardeniaid ond rydym yn hapus ein bod wedi gallu agor yn llawn yn 2021 mewn ffordd ddiogel i'n hymwelwyr a staff."
Gan nad oedd pobl yn gallu aros na theithio ar rai cyfnodau collwyd tri chwarter yr incwm arferol yn ystod 2020.
"Dwi'n falch ein bod wedi gallu agor ar gyfnodau, ond roedd nifer y rhai a oedd yn gallu aros yma y llynedd yn llawer llai na'r arfer," meddai Ms Stacey.
"Do fe wnaethon ni golledion ariannol yn 2020 ond buom yn ffodus iawn i gael cefnogaeth ariannol gan nifer o gyrff a'r llywodraeth.
"Yn ffodus hefyd doedd dim rhaid i ni roi ein wardeiniaid ar ffyrlo gan fod digon o waith i'w cadw nhw'n brysur.
"Mae Enlli yn donic i nifer a dwi'n meddwl bod pawb yn teimlo'n ddiogel ar yr ynys - rhywbeth sydd wedi dod yn fwy pwysig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf."
Mae Iestyn Daniel o Aberystwyth wedi ymweld â'r ynys nifer o weithiau.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Dr Daniel ei fod yn "teimlo ryw ddwys dangnefedd" pan yn cyrraedd yno.
"Yng ngeiriau T Gwynn Jones - does dim a gyffry'r hedd," meddai.
"Anghofiai fyth y tro cyntaf es i yno yn blentyn saith oed - a gweld yr holl bysgod, mecryll gan fwyaf, yn y môr wrth i ni groesi yng nghwch Wil Aberdaron.
"Mae e fel petai bod gan yr ynys ei henaid ei hun ac mae'n gallu newid ei hwyliau. Mae ynddi hefyd ysbrydion - mae gen i brawf o hynny. Ond yma hefyd mae modd gweld buddugoliaeth yr efengyl - dyma leoliad rhyfeddol."
Cadarnhaodd Caroline Jones, gweinyddydd swyddfa Ymddiriedolaeth Ynys Enlli bod eleni wedi bod yn flwyddyn andros o brysur gyda nifer fawr iawn o bobl yn gwneud ymholiadau.
"Mae'n amlwg bod yr hyn sydd gan yr ynys i'w gynnig yn apelio fwy at bobl," meddai.
"Eleni, wrth gwrs, mae nifer wedi bod yn chwilio am wyliau yn nes adref ond mae Ynys Enlli dramor!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2020
- Cyhoeddwyd13 Awst 2019