Ymchwilio i farwolaeth yn uned iechyd meddwl Tŷ Llewelyn

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r uned ar safle Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan

Mae ymchwiliad wedi dechrau yn dilyn marwolaeth claf mewn uned iechyd meddwl yn Sir Conwy.

Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y farwolaeth yn uned ddiogel Tŷ Llewelyn.

Mae Tŷ Llewelyn yn uned sydd â 25 o wlâu ar safle Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan.

Dywedodd y bwrdd iechyd na fyddai'n gwneud sylwadau pellach ar y mater tra bod ymchwiliad yn digwydd.

Dywedodd Iain Wilkie, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: "Gallaf gadarnhau bod marwolaeth wedi bod yn Nhŷ Llewelyn sydd yn cael ei ymchwilio yn unol â gweithdrefnau'r bwrdd iechyd.

"Ni fyddwn ni'n rhoi unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig