Rhybudd melyn am stormydd yng Nghymru fore Mercher

  • Cyhoeddwyd
Darogan tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd ar draws Cymru ar gyfer bore Mercher.

Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 04:00 ddydd Mercher ac yn para tan hanner dydd.

Disgwylir i holl siroedd Cymru ddiodde' cyfnod byr o law trwm, mellt a tharanau a gwyntoedd cryfion.

Gall y gwyntoedd gyrraedd cyflymder o 40 - 50 m.y.a. neu'n gryfach fyth mewn rhai mannau gyda'r posibilrwydd o ddifrodi rhai strwythurau.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod yna siawns isel y gall cartrefi a busnesau weld llifogydd a cholli cyflenwadau trydan am gyfnodau.

Mae yna hefyd rhybudd am amodau gyrru gwael a'r posibilrwydd o golli trafnidiaeth gyhoeddus megis trenau a bysiau pan fydd y tywydd ar ei waethaf.

Pynciau cysylltiedig