Ian Whyte: Pêl-fasged, Harry Potter a Game of Thrones

  • Cyhoeddwyd
ian

Mae Ian Whyte yn actor sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau mawr Hollywood dros yr 20 mlynedd diwethaf; Harry Potter, Star Wars: The Force Awakens, Rogue One a Prometheus i enwi ond rhai. Roedd hefyd yn actio yn y gyfres eiconig Game of Thrones.

Wedi ei eni ym Mangor, mae Ian yn 7'1" o daldra ac yn aml yn chwarae rhannau mewn ffilmiau ffuglen wyddonol (science fiction) fel cawr, bwystfil neu ryfelwr. Ond cyn troi at actio, fel chwaraewr pêl-fasged proffesiynol y dechreuodd ei yrfa.

"Roedd fy rhieni yn y fyddin, ac roedden nhw wedi eu lleoli yng ngogledd Cymru," meddai Ian wrth BBC Cymru Fyw. "'Nath fy nhad adael y fyddin a mynd i weithio yn Anglesey Aluminium.

"Yna fe wnaeth y teulu symud i Brighton yn ne Lloegr, ond roedden ni'n dal i ddod 'nôl i Gymru i ymweld â theulu. Roedd fy nhaid yn Nghatrawd Sir Fynwy, ac mae cofeb iddo yng Nghastell Mynwy."

Gyrfa pêl-fasged

Roedd Ian dros saith troedfedd o daldra erbyn roedd yn 17 mlwydd oed, ac felly yn naturiol roedd hyn yn agor drysau iddo ym myd chwaraeon.

"Nes i ddim dechrau chwarae rygbi tan o'n i yn yr ysgol uwchradd, a nes i ddechrau chwarae pêl-fasged tua yr un pryd. Pêl-fasged gymerodd drosodd fy mywyd, ond dim tan imi bron adael yr ysgol.

"Ges i ddim amser hapus yn yr ysgol ac i fod onest o'n i methu aros i adael. I ddweud gwir chwarae pêl-fasged oedd beth gadwodd fi mewn addysg, neu baswn i wedi gadael erbyn hynny yn gyfan gwbl."

Disgrifiad o’r llun,

Ian yn chwarae i'r Newcastle Eagles, ble orffenodd ei yrfa pêl-fasged yn 2003

Wedi ei ddyddiau yn yr ysgol fe cafodd Ian y cyfle i symud i New Jersey oherwydd ei sgiliau pêl-fasged: "Ges i ysgoloriaeth i chwarae pêl-fasged yn America, ac o'n i yna am bedair blynedd.

"Des i nôl yma ac fe ddechreuais chwarae eto, a chael fy newis i chwarae dros Loegr o dan y rheolwr ysbrydoledig o Hwngari, László Németh. Doedd o ddim tan y cyfnod yma imi ddechrau dysgu i chwarae'r gêm yn iawn gan fod fy amser i yn America fel prentis."

Cafodd Ian 80 o gapiau dros Loegr ac fe chwaraeodd i glybiau yn Ffrainc, Gwlad Belg a Phortiwgal.

"Yn Portiwgal nes i chwarae dros FC Porto ac fe enillon ni y trebl yn 1997 gan gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Ewrop, gan golli i Verona a aeth 'mlaen i golli i Real Madrid yn y rownd derfynol - felly roedd y safon yn uchel.

"Dwi'n caru teithio ac yn caru Ewrop, felly o'n i wrth fy modd cael teithio yn ystod fy ngyrfa bêl-fasged."

Actio a 'stunts'

"Doedd gen i ddim cynllun i hyfforddi fel stunt-man. Mae bobl sy'n gweithio fel stunt-man yn treulio tua pedair blynedd yn hyfforddi gwahanol agweddau, lle nes i ddysgu dros y blynyddoedd sut i wneud. Fe wnaeth y cyfarwyddwyr stunts ymddiried ynddo i.

"Dwi ond wedi actio fel double cwpl o weithiau, unwaith ar gyfer Harry Potter ac unwaith i Star Wars - felly roedden nhw'n eitha sbesial!

"Fy ffilm gyntaf oedd Alien vs Predator, ac roedd y rôl yna un eitha' corfforol."

Ffynhonnell y llun, IMDB
Disgrifiad o’r llun,

Ian yn actio yn ei ffilm gyntaf, Alien vs Predator (2004)

Y flwyddyn wedi iddo actio am y tro cyntaf yn Alien vs Predator fe ymddangosodd Ian yn Harry Potter and the Goblet of Fire.

"Dwi'n cofio bod ar set ffilm am y tro cyntaf, rhyw bedair blynedd cyn imi fod yn Harry Potter and the Goblet of Fire. O'n i ar set y ffilm Harry Potter cyntaf, yn sefyll fewn ar gyfer cymeriad Hagrid (Robbie Coltrane) tra oedden nhw'n ffilmio yng Nghastell Alnwick rhyw hanner awr i ffwrdd o lle dwi'n byw yn Northumberland.

"Mi ro'dd o'n tresio bwrw ar gyfer y golygfeydd 'ma lle roedden nhw fod i chwarae quidditch - gêm sy'n ymddangos yn llyfrau a ffilmiau Harry Potter. O'n i yn y castell yn helpu'r tîm camera i baratoi'r set ar gyfer y diwrnod canlynol, a nes i sylwi ar dri phlentyn yn eistedd wrth ymyl fi - bachgen gyda gwallt tywyll a sbectol, un gyda gwallt coch, a merch efo gwallt cyrliog. Dim nes imi weld y ffilm chwe mis wedyn nes i sylwi pwy oedden nhw...

"Yn Goblet of Fire, o'n i'n double ar gyfer pwy roedd Frances de la Tour yn ei chwarae, Olympe Maxime, sydd yn gymeriad 8'6"o daldra.

"I actio Frances de la Tour o'n i'n gorfod bod ar stilts 18 modfedd a gwisgo yr un gwisg â hi a'r un hetiau."

Disgrifiad o’r llun,

Corff Ian (ond wyneb Frances de la Tour) yn actio'r cymeriad Olympe Maxime yn Harry Potter and the Goblet of Fire

Yn y ffilm Prometheus fe actiodd Ian gyda rhai o enwau mawr y byd actio - Charlize Theron, Michael Fassbender, Guy Pearce, Noomi Rapace ac Idris Elba yn eu plith.

Cafodd y ffilm ei gyfarwyddo gan un o brif gyfarwyddwyr Hollywood, Ridley Scott. "Mae o (Scott) yn ddyn anhygoel, yn artist ac yn ŵr bonheddig," meddai Ian.

"Roedd o mor hawdd i siarad â'r cast i gyd ar y ffilm yna, a dwi'n cofio siarad efo Guy Pearce am gyfnodau hir ar set gan bod ni'n rhannu golygfeydd."

Disgrifiad o’r llun,

Ian yn ei wisg yn cael cyfarwyddiadau gan Ridley Scott

Game of Thrones

Dros wyth gyfres o'r rhaglenni ffantasi boblogaidd fe chwaraeodd Ian rôl pum cymeriad gwahanol, gan gynnwys Gregor Clegane a Dongo the Doomed.

Meddai: "Fe 'nathon ni ffilmio yng Ngogledd Iwerddon, Gwlad yr Iâ a Sbaen. Roedd rhannau o'r gyfres wedi eu ffilmio yn Dubrovnik ond es i ddim yno i actio - ond dwi wedi bod yno yn chwarae pêl-fasged rhyngwladol yn erbyn Croatia."

Disgrifiad o’r llun,

Yn un o'i roliau yn y gyfres HBO, Game of Thrones

Gan bod Ian yn chwarae llawer o gymeriadau ffantasi neu anghenfilod mae'n golygu ei fod yn gallu bod mewn colur neu gwisgoedd trwm am gyfnodau hir.

"Mae'n rhan o'r broses mae gen i ofn, y camau sydd rhaid eu cymryd i ddatblygu cymeriad.

"Yr hira' dwi 'di bod mewn gwisg prosthetig oedd ar gyfer ffilm o'r enw Outcast gyda James Nesbitt. O'n i yn y gwisg mawr trwm am tua naw awr, a'r eironi oedd fod y cymeriad o'n i'n chwarae yn gwbl noeth. Ar gyfer Game of Thrones roedd o'n tua tair awr a hanner."

Oherwydd ei rôl mewn sawl ffilm a chyfres ffantasi a ffuglen wyddonol mae Ian yn teithio i wahanol gonfensiynau o amgylch y byd, ble mae ffans yn cael cyfarfod â'u harwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ian yn ateb cwestiynau gan ffans yn Comic Con Warsaw, Gwlad Pwyl, Hydref 2018

A beth sydd ar y gweill i'r cawr o Fangor?

"Mae 'na ffilm dwi ynddi yn dod allan flwyddyn nesa' o'r enw The Northmen sydd efo Alexander Skarsgård (True Blood) ac Anya Taylor-Joy (The Queen's Gambit), ac mae 'na gyfres yn dod allan dechrau flwyddyn ar Disney... ond dwi'm yn cael dweud mwy am hwnna."

Felly, y tro nesaf y byddwch yn gwylio ffilm neu gyfres â chawr neu anghenfil ynddo, cofiwch efallai mai person o Wynedd sydd o dan y wisg...

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig