'Dylai'r Cymry ymfalchïo yn ein llên ffantasi'
- Cyhoeddwyd
Mae'r themâu sydd mewn chwedlau Cymreig fel y Mabinogi yn gwneud arian mawr i gyfresi byd-enwog fel Game of Thrones, Lord of the Rings a Harry Potter, ond mae "snobyddiaeth" wedi cadw'r genre rhag datblygu yn y Gymraeg meddai'r awdur Elidir Jones.
Mae Elidir Jones yn blogio am gemau fideo a ffuglen ffantasi a gwyddonol ac wedi cyhoeddi nofel ffantasi gyda'r artist Huw Aaron, Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth, yn y gobaith o newid rhywfaint ar y sefyllfa.
"Mae 'na snobyddiaeth wedi bod - ac yn aml gan yr awduron sy'n cynhyrchu gweithiau ffantasi a ffuglen wyddonol eu hunain," meddai Elidir Jones.
"Mae ambell un yn rhoi rhagair ar ddechrau'r llyfr fel ryw fath o ymddiheuriad am sgwennu llyfrau o'r fath, fel gwnaeth Islwyn Ffowc Elis ar ddechrau Y Blaned Dirion."
Yn draddodiadol dydy'r gweisg sydd wedi cyhoeddi llyfrau ffantasi Cymraeg ddim wedi bod o lawer o help chwaith, a hyd yn oed yn eu tanseilio meddai'r awdur.
Mae'n disgrifio'r broliant ar gefn y nofel Samhain yn y 1990au yn "ddi-ddeall" o'r genre.
"Mae'r llyfr Samhain gan Andras Millward yn ffantasi reit gonfensiynol o ran y stori," meddai.
"Mae'n dechrau mewn pentref bach yn y wlad ac mae na lanc ifanc yn ffeindio mae o di'r un sy'n mynd i achub y byd ac mae'n mynd off efo cleddyf. Mae'n reit gonfensiynol yn hynny o beth ond o leiaf mae o'n ymwybodol o'r confensiynau ac yn amlwg bod yr awdur yn ffan o'r genre.
"Ond o ddarllen cefn y llyfr mae'n drychinebus o wael. Dydyn nhw ddim yn trio cael pobl i ddarllen y llyfr. Mae'n cymharu'r llyfr efo Mortal Kombat, jyst achos bod hwnnw'n gêm gyfrifiadur boblogaidd ar y pryd. Does na ddim math o ddealltwriaeth."
Dreigiau a chleddyfau
Fis Tachwedd mae cyfres deledu fawr His Dark Materials yn cael ei rhyddhau - mae wedi ei ffilmio'n rhannol yng Nghymru a'i seilio ar nofelau ffantasi Phillip Pullman a gafodd ei addysg yn Harlech.
Cafodd dau o gewri ffantasi Saesneg, JRR Tolkien (Lord of the Rings, The Hobbit) a JK Rowling (Harry Potter) eu magu ar y ffin â Chymru hefyd a Tolkien yn sicr wedi ei ddylanwadu gan y Gymraeg.
Mae'n anodd bod yn siŵr a oes arwyddocâd i'r ffaith fod gan dri o'r awduron ffantasi amlycaf yn Saesneg gysylltiadau â Chymru ond efallai ei bod yn syndod bod ffantasi mor brin mewn llenyddiaeth Gymraeg o ystyried traddodiad y Mabinogi.
Ym myd llenyddol Cymru mae'r genre wedi cael ei weld fel un ymylol meddai Elidir, sy'n dangos "snobyddiaeth", meddai.
"Dydyn nhw ddim yn niche. Sbïwch chi ar Harry Potter, Game of Thrones, Lord of the Rings - dyma'r rhai mwyaf poblogaidd, dyma'r rhai sy'n dod â'r pres i fewn," meddai.
"Yng Nghymru dwi'n dyfalu bod adwaith wedi bod yn erbyn ffantasi yn nechrau'r 20fed Ganrif o bosib oherwydd crefydd - bod darlunio ryw fyd sydd ddim yn ein byd ni yn mynd yn erbyn Duw efallai.
"Ond dwi'n meddwl y dylen ni wneud ymdrech i hawlio ffantasi fel genre Cymreig achos os ydych chi'n sbïo ar y ddelwedd draddodiadol o ffantasi mae wedi ei seilio ar Ewrop y canol oesoedd neu'r oesoedd tywyll - y dreigiau a'r cleddyfau a'r math yna o beth. Os ydych chi'n sbïo ar y straeon sy'n ffitio'r ddelwedd yna, y cynharaf mwy neu lai ydy'r Mabinogi, felly fe ddylan ni ymfalchïo yn y peth."
Y Mabinogi ymhobman
Mae Elidir Jones yn credu mai agwedd snobyddlyd oedd yn gyfrifol hefyd am ddisgrifiad negyddol un beirniad Eisteddfodol o waith cynnar gan Ifan Morgan Jones fel "gêm Playstation".
Aeth Ifan Morgan Jones ymlaen i gyhoeddi llyfrau sy'n benthyg o'r byd ffantasi gan gynnwys Igam Ogam, Dadeni a Babel, gyda chymeriadau a themâu y Mabinogi wedi dylanwadu ar Dadeni yn enwedig.
Rydyn ni'n lwcus meddai Ifan Morgan Jones bod elfennau ffantasïol fel rhai'r Mabinogi, oedd yn gyffredin i bob diwylliant dros y byd ers talwm, wedi goroesi yng Nghymru a'u bod mor ddylanwadol.
"Dwi'n gweld elfennau o'r Mabinogi yn bob man; mewn gemau cyfrifiadur o America, Japan a Corea, a dylanwad chwedloniaeth Cymru mewn ffilmiau fel Lord of the Rings, Harry Potter a Game of Thrones.
"Ac rydych chi'n meddwl 'mae'r diwylliannau eraill yma'n gwneud arian mawr ar gefn ein diwylliant ni' mewn ffordd a dydyn ni ddim fatha'n bod ni eisiau gwneud ryw lawer efo fo, sydd yn biti.
Pwyslais ar realaeth
"Dwi ddim yn gwybod os mai snobyddiaeth ydy o ond yng Nghymru rydyn ni'n poeni am gael ein cymryd o ddifri, ac o ganlyniad i hynny efallai bod lot o bwyslais wedi bod ar realaeth.
"Wrth gwrs mae angen realaeth ar lenyddiaeth unrhyw ddiwylliant ond efallai bod gorbwyslais wedi bod ar hynny a dim digon ar genres eraill.
"Dwi'n meddwl ei fod yn newid - yn bennaf oherwydd pobl fel Elidir sy'n barod i sgrifennu nofelau a llyfrau ffantasi.
"Mae pobl yn teimlo'n fwy rhydd i sgrifennu nofelau ditectif, nofelau ffantasi, nofelau gwyddonias o bosib nag oedden nhw yn y gorffennol."
Nod Elidir Jones gydag Yr Horwth, "nofel am griw o anturiaethwyr yn mynd i hela bwystfil brawychus sy'n byw yn y mynydd" ydy creu byd ffantasïol a allai fod yn lleoliad i fydoedd a nofelau ffantasi Cymraeg eraill.
"Fy mwriad i ydy iwsho hwn fel sail i rywbeth sy'n mynd i bara am ddegawdau. Ac os ydi o'n llwyddiant gwahodd awduron eraill i sgrifennu yn yr un byd - dyna'r gobaith sydd gen i!"
Hefyd o ddiddordeb: