Adran Dau: Casnewydd 2-2 Caerliwelydd

  • Cyhoeddwyd
Ed UpsonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe orffennodd Casnewydd gyda naw chwaraewr wedi i Ed Upson a Ryan Haynes gael cardiau coch

Roedd y rheolwr newydd James Rowberry yn gwylio o'r eisteddle nos Fawrth wrth i Gasnewydd gael gêm gyfartal gyffrous yn erbyn Caerliwelydd yn Rodney Parade.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond 45 eiliad, gyda Joe Riley yn sgorio i roi'r dechrau gwaethaf posib i'r Alltudion.

Ond fe wnaeth Casnewydd daro 'nôl gyda dwy gôl o fewn tri munud gan Dom Telford yng nghanol yr hanner cyntaf i'w rhoi ar y blaen ar yr egwyl.

Wedi 65 munud fe gafodd Ed Upson gerdyn coch i'r tîm cartref am lawio'r bêl ar y llinell gôl, ac fe ddaeth Caerliwelydd yn gyfartal gyda chic o'r smotyn Zach Clough.

Fe orffennodd Casnewydd gyda naw chwaraewr, wrth i Ryan Haynes orfod gadael y maes ar ôl cael ail gerdyn melyn.

Yn gynharach ddydd Mawrth daeth cyhoeddiad mai Rowberry - oedd yn gwylio o'r eisteddle nos Fawrth - fydd yn olynu Michael Flynn fel rheolwr Casnewydd.