Achub pedwar o fws ar ôl i law trwm achosi trafferthion
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid achub pedwar o bobl o fws oedd mewn llifddwr yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi oriau o gawodydd trwm ar draws Cymru.
Roedd Heol Ynysygerwn yn Aberdulais, ger Castell-nedd ar gau am gyfnod hyd nes i'r gwasanaethau brys symud y pedwar - dyn a thri pherson ifanc - o'r bws ychydig cyn 09:00.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin eu bod wedi derbyn 38 o alwadau am gymorth yn siroedd Abertawe, Caerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot rhwng 05:00 a 08:00 fore Mercher.
Cafodd nifer o dai eu heffeithio gan lifogydd yng Nghydweli, Castell-nedd a Gorseinon.
Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am stormydd, a ddaeth i rym ar draws Cymru am 04:00 fore Mercher, wedi dod i ben am 12:00.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae glaw trwm a gwyntoedd cryf wedi achosi problemau ar y ffyrdd mewn rhai mannau, ac fe rybuddiodd yr awdurdodau bod angen pwyllo wrth yrru oherwydd yr amodau.
Bu'n rhaid cau'r A48 rhwng cylchfan Pont Abraham a Fforest yn Sir Gaerfyrddin oherwydd llifogydd, ac fe mae heolydd yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe hefyd wedi'u heffeithio.
Fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru sawl rhybudd llifogydd, dolen allanol, gan gynnwys rhai yn ardal Llanelli a Dyffryn Gwendraeth, ond roedd y nifer wedi lleihau erbyn diwedd y bore.