'Rhentu yng Nghaerdydd ddim yn opsiwn'

  • Cyhoeddwyd
arwyddion tai ar werth

Mae sefyllfa prisiau rhent Caerdydd yn "anobeithiol" yn ôl pobl ifanc sy'n ceisio chwilio am lefydd i fyw yn y ddinas.

Yn ôl ffigyrau diweddar, mae prisiau rhent y brif ddinas wedi cynyddu 5.2% eleni, o gymharu â 2.4% y llynedd.

Dywedodd menyw 22 oed sydd wedi dechrau swydd yng Nghaerdydd yn ddiweddar bod rhentu yna "jyst ddim yn opsiwn i fi ar y foment".

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n bwriadu cynyddu'r nifer o dai sydd ar gael yng Nghaerdydd, ac wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai carbon-isel cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ôl Zoopla - gwefan lle mae asiantaethau tai yn hysbysebu eiddo - mae'r rhent ar gyfartaledd yn costio £848 y mis yng Nghaerdydd, o gymharu â £666 ar draws Cymru gyfan.

Mae'r data hefyd yn dangos bod y cynnydd ym mhrisiau rhent yng Nghaerdydd wedi mwy na dyblu eleni o gymharu â'r flwyddyn ddiwethaf - o 2.4% y llynedd i 5.2% eleni.

I bobl fel Niamh Salkeld, 22 o Gwmbrân, mae'r cynnydd yn golygu ei bod wedi gorfod ail-feddwl ei chynlluniau ar ôl graddio o'r brifysgol.

Ffynhonnell y llun, Niamh Salkeld
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Niamh yn gobeithio symud i'r brifddinas ar ôl graddio o Gaerdydd eleni

"Roedd popeth chi moyn yn y brif ddinas, fel y siawns i 'neud pethau newydd mewn fynna, y siawns o swyddi gwahanol fynna, o gwrdd â phobl wahanol, roedd Caerdydd y lle i fynd," meddai.

"Ond i gyd-fynd gyda'r freuddwyd yma o fyw fynna, oedd y ffaith bod y costau yn llawer mwy uchel o gymharu â gweddill Cymru. Roedd hwnna'n sioc i fi."

Mae Niamh wedi symud adref i dŷ ei rhieni.

"Mae'r prisiau yng Nghaerdydd i rentu ac i brynu ddim yn rai gall bobl oedran ni dalu amdan. Mae'n rhaid i fi feddwl am ffordd arall neu le arall i fyw."

Disgrifiad,

Prisiau rhent Caerdydd 'ddim yn rhai gall pobl oedran ni dalu am'

Gan nad yw Niamh yn ennill digon o arian i dalu am rent yng Nghaerdydd ac i gynilo i brynu tŷ, mae hi'n bwriadu aros adref a theithio i'r gwaith am rai blynyddoedd.

"Mae'r siawns o fi'n symud mas yn bell i ffwrdd i fi reit nawr, mae ddim yn rhywbeth sydd yn agos," meddai.

Sefyllfa 'anobeithiol'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alice Gray nad yw hi'n sicr os fydd hi'n gallu fforddio dychwelyd i Gaerdydd

Mae Alice Gray, 29 o Sir Benfro, yn dweud bod rhentu yng Nghaerdydd fel person sengl yn "amhosib".

"I fi, mae'n teimlo'n anobeithiol ar hyn o bryd. Rydw i wedi symud 'nôl i dŷ fy rhieni a dwi ddim yn siŵr sut fyddai'n dod 'nôl.

"Dwi methu fforddio rhentu ar ben fy hun. Bysai naill ai'n rhoi fi mewn dyled, neu byswn i ddim yn arbed dim byd ar ddiwedd y mis i safio am y blaendal cynyddol mae'n rhaid i fi gael am dŷ. A dwi bendant methu prynu ar hyn o bryd."

"Mae pobl yn cynnig mwy o arian na'i gilydd am rent, eiddo sy'n cael eu rhentu, a hefyd yn cynnig rhoi blaendal lawr am rent am y flwyddyn gyfan i sicrhau lle i fyw."

Galw mawr

Dywedodd Tomos Williams, cyfarwyddwr cwmni Maison ym Mhontcanna, Caerdydd, bod tynfa'r ddinas a llai o gyflenwad o dai rhent yn golygu nad yw ei asiantaeth yn cofio cyfnod lle'r oedd yna gymaint o alw.

"Mae o tua 20% i 30% yn fwy na fysa fo 'di bod llynedd", meddai.

"Er mwyn rhoi rhyw esiampl i chi, fel arfer fysan ni'n marchnata eiddo am ryw bythefnos weithiau, wythnos i bythefnos, erbyn rŵan diwrnod o farchnata 'da ni'n gwneud, neu hanner diwrnod mewn ambell eiddo sydd yn boblogaidd iawn.

"Ac wedyn o fewn oriau wedyn mae gynnon ni ddigon o apwyntiadau i osod tŷ dwywaith, dair drosodd, os nad yn fwy.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tomos Williams bod yna alw mawr am dai yng Nghaerdydd ar hyn o bryd

"Mae pobl wedi bod yn y sort of cyfnodau clo yn amharod i symud, a rŵan yn teimlo wrth i bethau lacio, dyma'u cyfle nhw i symud.

"Ac ella ffactor arall yng Nghaerdydd ydy, wel mae'n ddinas ryngwladol, ac mae teithio 'di bod ar stop, ac yn ystod y cyfnodau 'ma 'da ni'n gweld y colegau yn dechra' agor unwaith yn rhagor, ac mae'r... myfyrwyr tramor yn symud."

Cynyddu'r nifer o dai

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai cynyddu'r nifer o dai sydd ar gael yng Nghaerdydd yw'r "ffordd orau" o fynd i'r afael â chynnydd ym mhrisiau rhent.

Ychwanegodd llefarydd eu bod nhw "wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon-isel i rentu dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â helpu awdurdodau lleol i ddychwelyd tai gwag trwy nifer o gynlluniau.

"Mae rheoli rhent yn un o'r nifer o bethau arall rydyn ni'n cadw o dan ystyriaeth fel rhan o'n nod i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad i dai fforddiadwy o ansawdd da.

"Bydd ein Bil Rhentu Cartrefi, sy'n dod mewn i rym yn haf 2022, yn trawsnewid trefniadau cyfreithiol rhent. Bydd rhaid i berchnogion rhoi cyfnod rhybudd o chwe mis cyn dod â chontract i ben lle nad yw'r tenant ar fai, yn ogystal â chael dyletswyddau ychwanegol."

Pynciau cysylltiedig