Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 34-28 Benetton

  • Cyhoeddwyd
Dan Jones and Dane BlackerFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency

Bu'n rhaid i'r Scarlets ymladd yn galed i sicrhau eu hail fuddugoliaeth o'r tymor yn erbyn Benetton ym Mharc y Scarlets nos Wener.

Maen nhw wedi cael dechrau siomedig i'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig a bu'n rhaid iddyn nhw chwarae heb 22 o chwaraewyr oherwydd anafiadau a dechreuad ymgyrch Cymru yng ngemau'r Hydref.

Dechreuodd y gêm yn addawol wrth i'r prop Rob Evans nodi ei 150fed gem i'r rhanbarth gyda chais.

Yna fe wnaeth y mewnwr Dane Blacker orffen gwrthymosodiad slic i roi'r Scarlets 14 pwynt yn y blaen o fewn 20 munud.

Ond ymatebodd yr Eidalwyr yn gryf wrth i basio mentrus galluogi Dewaldt Duvenege i sgorio cais hawdd ar ôl hanner awr, a bu'n rhaid i'r Scarlets oroesi cyfnod o bwysau dwys i barhau ar y blaen ar yr egwyl.

Llwyddodd Benetton i ddod yn gyfartal o fewn pum munud o'r ailddechrau wrth i'r Scarlets ailadrodd camgymeriadau ger y ryc gan alluogi prop Thomas Gallo i wibio i'r llinell.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Rob Evans yn sgorio yn ei 150fed gêm i'r Scarlets

Ymatebodd dynion Dwayne Peel yn bositif i'r ergyd wrth i gic gosb Dan Jones a chais y bachwr Marc Jones roi'r Scarlets ar y blaen yng nghanol yr ail hanner.

Unwaith eto roedd blaenwyr y Scarlets yn ddiog ger y ryc a daeth Benetton yn ôl o fewn triphwynt wrth i Gallo wthio drosodd am ei ail gais yn dilyn cic gosb i'r gornel.

Dylai'r canlyniad wedi'i gadarnhau wrth i'r Scarlets yn taro yn ôl gyda Blacker yn sicrhau'r pwynt bonws gyda'i ail gais tra ychwanegodd Dan Jones ac eilydd Angus O'Brien chwe phwynt arall trwy giciau cosb.

Cafodd pas flêr ei ryng-gipio gan Tomasso Mencoello i roi'r pwysau ar y Scarlets yn y 10 munud olaf ond fe lwyddodd tîm Dwayne Peel i wrthsefyll am fuddugoliaeth bwysig.

Pynciau cysylltiedig