Merch, 17, yn disgwyl oriau am ambiwlans ar ôl disgyn

  • Cyhoeddwyd
Barri

Roedd merch 17 oed a ddisgynnodd o'r morglawdd ym mhromenâd y Barri yn gorwedd ar y traeth gydag anaf difrifol i'w asgwrn cefn am oriau oherwydd diffyg ambiwlans.

Dywed gwylwyr y glannau Aberdaugleddau eu bod wedi cael eu galw gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru ychydig cyn 19:00 ddydd Mercher oherwydd bod pryder ynghylch ei chyflwr a'r llanw sy'n dod i mewn.

Y gred yw ei bod wedi bod ar y traeth am tua thair awr bryd hynny.

Cafodd timau achub gwylwyr y glannau o'r Barri a Llanilltud Fawr eu galw i'w chario i le diogel cyn i'r llanw ddod i mewn.

Cyrhaeddodd ambiwlans yn fuan wedi hynny a chafodd ei chludo i'r ysbyty tua 20:30.

Dywedodd Ambiwlans Cymru eu bod yn cydnabod fod oedi yn digwydd oherwydd "pwysau parhaus" ar y gwasanaeth.

"Mae'r sefyllfa hon yr un mor rhwystredig i ni ag y mae i'n cleifion a'u teuluoedd, yn enwedig pan rydyn ni'n gwybod bod pobl ein hangen ni yn y gymuned ac rydyn ni'n ymddiheuro i'r holl gleifion sydd wedi aros yn hirach nag y byddem ni wedi bod eisiau," meddai Sonia Thompson, o'r gwasanaeth ambiwlans.

"Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i wella'r sefyllfa."

Pynciau cysylltiedig