Newid dolen Twitter yn 'arddangos ein hiaith yn fyd-eang'

  • Cyhoeddwyd
Y ddolen newyddFfynhonnell y llun, Twitter

Mae newid y ddolen Twitter o @fmwales i @PrifWeinidog yn "ffordd dda i arddangos ein hiaith i gynulleidfa fyd-eang", meddai Llywodraeth Cymru.

Gwnaed y newid yn ddirybudd yr wythnos ddiwethaf i'r cyfrif sydd â bron 125,000 o ddilynwyr.

Mae rhan fwyaf o gyfrifon Twitter Llywodraeth Cymru ar wahân yn Gymraeg a Saesneg - er enghraifft, @LlywodraethCym a @WelshGovernment; @LlCIechydaGofal a @WGHealthandCare - ond mae trydariadau'r prif weinidog fel arfer yn Gymraeg a Saesneg bob yn ail.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid oedd y ddolen Twitter flaenorol (@fmwales) yn ddwyieithog felly rydym wedi troi hon drosodd i gydymffurfio â gofynion o ran yr iaith Gymraeg.

"Mae hefyd yn ffordd dda o arddangos ein hiaith i gynulleidfa fyd-eang."

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Ni ddylid cymysgu rhwng Mark Drakeford a'r prif weinidog o ddrama S4C Byw Celwydd, Meirion Llywelyn

Dywedodd yr arbenigwr ar gyfryngau cymdeithasol, Owen Williams wrth y BBC: "Mae hyn yn newid pwrpasol, cynlluniedig gan swyddfa Mark Drakeford.

"Mae newid dolen Twitter, fel cyfrif wedi'i ddilysu, yn gofyn am drafodaeth gyda rheolwyr cyfrifon Twitter i sicrhau na chollir y marc gwirio gwyn ar gefndir glas.

"Mae'n gam arwyddocaol nad yw'n defnyddio 'Prif Weinidog Cymru' ond yn hytrach 'Prif Weinidog', sef y term ry'n ni'n fwy cyfarwydd â defnyddio am Boris Johnson."

Ychwanegodd Mr Williams, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Siml, ei fod yn hoffi'r newid, ond rhybuddiodd y byddai'n gamgymeriad pe na fyddai Llywodraeth Cymru yn dal gafael ar yr hen gyfrif @fmwales oherwydd "fel arall, ar ôl cyfnod gras, gallai unrhyw un gymryd rheolaeth o'r cyfrif".

'Ymestyn safonau'r Gymraeg'

Dywedodd Siân Gwenllian AS, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg: "Mae pob gweithred sydd yn normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg i'w chroesawu.

"Mae llawer mwy y gall ac y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud i hybu'r iaith a chynyddu nifer y siaradwyr.

"Mae hynny yn cynnwys ymestyn safonau'r Gymraeg er mwyn sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg a mabwysiadu deddf addysg Gymraeg bellgyrhaeddol a fydd yn sylfaen i'r nod o filiwn o siaradwyr."

Gwahoddwyd y Ceidwadwyr Cymreig i ymateb i'r newid.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol