Rhybudd am law trwm i Gymru dros y dyddiau nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd am law trwm mewn grym ar gyfer y mwyafrif helaeth o Gymru dros y dyddiau nesaf.
Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd i rym am 06:00 fore Iau, ac mae'n weithredol tan 15:00 brynhawn Gwener.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer pob sir yng Nghymru oni bai am Sir y Fflint.
Mae pum rhybudd llifogydd, dolen allanol mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn y gogledd-orllewin hefyd - rhybuddion "byddwch yn barod", sef y lefel lleiaf difrifol.
Cafodd amryw o ffyrdd eu cau yn y gogledd-orllewin ddydd Iau oherwydd llifogydd, gan gynnwys yr A55 rhwng cyffyrdd 4 a 5 ar Ynys Môn a'r A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog.
100mm o law mewn mannau
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y gall rhai cartrefi a busnesau gael eu taro gan lifogydd, ac yn annog pobl i gymryd rhagor o ofal ar y ffyrdd.
Yn ôl y rhagolygon mae'n bosib y bydd hyd at 60mm o law yn disgyn ar rannau helaeth o'r wlad, gyda hyd at 100mm mewn rhai mannau yn y gogledd-orllewin, fel Eryri.
Mae'r glaw yn debygol o fod yn fwy gwasgaredig dros y de, ond mae rhybudd y bydd y glaw yn drwm yn y mannau hynny.