Rhybudd am dywydd gwlyb a gwyntog yn y de-ddwyrain
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd melyn am dywydd gwlyb a garw ar draws ardaloedd o dde-ddwyrain Cymru nos Sadwrn.
Bydd y rhybudd mewn grym o 23:00 nos Sadwrn tan 15:00 ddydd Sul.
Yn ôl y swyddfa dywydd, gall 20-30mm o law gwympo o fewn dwy i dair awr mewn rhai ardaloedd, sy'n debygol o achosi llifogydd.
Mae gwyntoedd cryfion o 50-60mya yn bosib, yn enwedig mewn ardaloedd ar hyd yr arfordir.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol yng Nghymru:
Abertawe
Blaenau Gwent
Caerdydd
Caerffili
Caerfyrddin
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Merthyr Tydfil
Mynwy
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2021