Rhybuddion llifogydd yn parhau wedi glaw trwm

  • Cyhoeddwyd
map o rybuddion melyn CymruFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhybuddion tywydd ar gyfer gwyntoedd a glaw mewn grym ar gyfer llawer o Gymru dros y penwythnos

Mae rhybuddion llifogydd yn parhau i fod mewn grym yn Sir Benfro a Gwynedd yn dilyn tywydd garw dros y penwythnos.

Cafwyd glaw trwm a gwyntoedd cryfion mewn sawl rhan o ogledd a de Cymru, ond mae'r rhybuddion tywydd oedd mewn grym bellach ar ben.

Serch hynny, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod rhybuddion llifogydd yn parhau ar gyfer Afon Ritec yn Ninbych-y-Pysgod, ac Afon Rhyd Hir ger Pwllheli.

Mae ganddyn nhw hefyd 33 o rybuddion 'llifogydd: byddwch yn barod', ar draws rhannau helaeth o'r gogledd orllewin, Sir Drefaldwyn a de orllewin Cymru.

Mae cwmni Western Power Distribution hefyd yn dweud bod nam yn y Grid Cenedlaethol wedi achosi toriad byr mewn cyflenwad trydan yn ne Cymru nos Sul.

Cafodd goleuadau a theclynnau trydanol eu heffeithio, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n dweud fod y digwyddiadau hefyd wedi effeithio ar systemau larwm.

Digwyddodd y nam am tua 18:00, yn ystod cyfnod o wyntoedd a glaw, ac fe gafodd mellt eu gweld tua'r un adeg.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod cyfuniad o wynt a glaw dros y penwythnos yn debygol o fod wedi achosi llifogydd lleol ac effeithio ar amodau teithio.

Roedd y rhybudd am law trwm yn berthnasol i siroedd Ceredigion, Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Powys, Wrecsam ac Ynys Môn, gyda'r cofnod uchaf o law dros y 24 awr diwethaf - 41.8mm - yn disgyn yng Nghapel Curig.

Cafwyd rhybudd o wyntoedd cryfion hefyd ar gyfer nifer o ardaloedd arfordirol yng Nghymru, yn cyrraedd 70mya mewn rhai ardaloedd.

Pynciau cysylltiedig