Y Bencampwriaeth: Bournemouth 4-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Abertawe v BournemouthFfynhonnell y llun, Rex Features

Roedd tasg enfawr yn wynebu Abertawe wrth iddyn nhw ymweld â Bournemouth ddydd Sadwrn ac mae'r Elyrch bellach yn y trydydd safle ar ddeg wedi iddyn nhw golli o bedair gôl i ddim.

Mae'r tîm o dde Lloegr ar ben y gynghrair a heblaw am lithriad annisgwyl nos Fercher dydy nhw ddim wedi colli y tymor hwn.

Abertawe a ddechreuodd gryfaf a hynny gyda'r hyder y mae eu gemau diweddar wedi roi iddynt. Ond gydag amser fe gryfhaodd perfformiad Bournemouth ac ar ôl 26 munud rhoddodd Dominic Solanke y tîm cartref ar y blaen gyda'i ergyd droed dde.

Tarodd Solanke ergyd arall ar ddechrau'r ail hanner, wedi croesiad gan Leif Davis a rhoi Bournemouth ddwy gôl ar y blaen.

Aeth pethau o ddrwg i waeth ar ôl 64 munud pan roddodd Grimes bas wan ac ildio'r bêl mewn man peryglus iawn ac er i'r golwr Hamer wneud arbediad da fe beniodd Jaidon Anthony drydedd gôl i Bournemouth.

Gallai Bournemouth fod wedi sgorio dwy neu dair arall wrth i amddiffyn Abertawe fethu'n glir â delio gydag ymosodwyr y tîm cartref.

Fe ddaeth pedwaredd yn ystod yr amser ychwanegol wrth i Abertawe wneud llanast o glirio'r bêl, ac Anthony rwydodd y bel eto.

Felly mae'r tîm o dde Lloegr yn parhau ar ben y Bencampwriaeth ac Abertawe yn syrthio i'r trydydd safle ar ddeg.