Myfyriwr Prifysgol Drindod Dewi Sant wedi marw o'r diciâu
- Cyhoeddwyd
Mae myfyriwr o gampws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi marw o'r diciâu, neu TB.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r brifysgol yn gweithio gyda'i gilydd i adnabod unrhyw un fu mewn cyswllt agos â'r myfyriwr er mwyn cynnig sgrinio.
Does dim cysylltiad rhwng yr achos yma ac achosion o TB yn Llwynhendy, yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Sion Lingard, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ICC bod tîm rheoli aml-asiantaeth yn edrych ar yr achos hwn ac unrhyw fesurau rheoli angenrheidiol.
"Mae'r risg i'r cyhoedd yn parhau'n isel iawn, gan fod TB yn anodd iawn i'w drosglwyddo," meddai.
"Mae angen cysylltiad agos a hir gydag unigolyn heintus, gan gynnwys byw ar yr un aelwyd, er mwyn i berson gael ei heintio.
"Rydym yn y broses o gadarnhau cysylltiadau agos y sawl a fu farw i gynnig sgrinio TB gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a darparu cyngor i staff a myfyrwyr y brifysgol."
Ychwanegodd bod "modd gwella o TB gyda chwrs cyflawn o driniaeth".
'Dim rheswm i fynd i banig'
Bydd yr awdurdodau'n cysylltu'n uniongyrchol ag unigolion "a fyddai'n elwa o sgrinio TB".
Maen nhw'n cynghori pobl i gysylltu â'u meddyg teulu os ydyn nhw'n dioddef cyfuniad o symptomau - tagiad heb esboniad sy'n para am gyfnod, all gynnwys tagu gwaed, colli pwysau diesboniad a chwysu gyda'r nos.
Mae ICC wedi cydymdeimlo gyda pherthnasau a ffrindiau'r myfyriwr fu farw.
Mae Undeb Myfyrwyr y brifysgol yn helpu rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am y gefnogaeth sydd ar gael.
"Does dim rheswm i fynd i banig," medd Llywydd Campws Llambed, James Barrow, "ond er mwyn rhoi sicrwydd mae ICC a'r brifysgol wedi gweithredu'n gyflym i sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd ar y safle ddydd Llun i gefnogi staff a myfyrwyr."