Eirin Tagu: Wedi'r holl gasglu, syched sydd!
- Cyhoeddwyd
Eirin tagu, eirin duon bach, eirin surion, eirin y perthi, neu 'sloe' yn Saesneg. Dyna rai o'r enwau sydd gennym yng Nghymru ar yr aeron bach glasddu eu crwyn sy'n ffrwyth i'r ddraenen ddu neu i'r Prunus spinosa (Lladin).
 hithau'n fis Tachwedd, a'r perthi'n drwm o eirin, Adam Jones, neu Adam yn yr ardd, sy'n rhannu ei gyfrinachau am hel eirin tagu, a sut mae troi'r eirin sychion, surion yn ddanteithion melys.
Mae mis Tachwedd yn adeg berffaith i fynd ati i gasglu eirin tagu neu eirin y perthi. Ffrwyth y ddraenen ddu yw'r eirin bach duon a geir ar hyd a lled cloddiau Cymru yr adeg hon o'r flwyddyn.
Mae eirin tagu yn fwyd iachus a maethlon sy'n llawn fitamin C a fitamin E. Mae'r ffrwythau yn cynnwys mineralau llesol fel potasiwm, calsiwm a magnesiwm ac yn llawn gwrthocsidau sy'n ein helpu i frwydro yn erbyn pob math o glefydau.
Eirin v Eirin Tagu
Pan fyddwch chi'n gweld eirin tagu yn y perthi, byddech chi bron iawn yn meddwl mai eirin bach ydynt, neu plum yn Saesneg. Maen nhw'n edrych yn debyg iawn, y dail, y blodau a'r ffrwythau ac mae rheswm penodol am hynny. Daw'r eirin modern a fwytwn heddiw yn wreiddiol o'r ddraenen ddu ac eirin ceirios. Fe'u tyfwyd gyda'i gilydd dros gannoedd o flynyddoedd i greu'r eirin suddlon melys ry'n ni'n gyfarwydd â nhw heddiw.
Yn wahanol iawn i'w disgynyddion, mae blas eirin tagu, fel yr awgryma eu henw Cymraeg, yn sur ac yn chwerw ac y byddai eu bwyta yn amrwd yn sicr o godi blas cas yng nghefn eich gwddf.
Fodd bynnag, erbyn mis Tachwedd ac ar ôl rhew cyntaf y tymor, bydd y ffrwyth yn meddalu ac yn dod yn fwy suddlon a dyma'r adeg berffaith i'w cynaeafu ar gyfer creu pob math o ddanteithion melys.
Cyngor ar gasglu eirin tagu:
Byddwch yn ofalus wrth gasglu eirin tagu gan fod drain y ddraenen ddu yn finiog dros ben ac yn gallu rhwygo eich dillad yn hawdd. Ewch â phâr o fenig trwchus a chymerwch bwyll wrth godi'r eirin oddi ar y llwyni.
Cofiwch gasglu eirin nad ydynt wrth ymyl priffyrdd neu fannau cyhoeddus prysur.
Ystyriwch fyd natur wrth fforio hefyd, peidiwch casglu'r ffrwythau i gyd gan fod yr eirin bach yn fwyd hanfodol i bob math o adar a chreaduriaid bach yn ystod y gaeaf.
Wedi'r holl gasglu, syched sydd!
Mae eirin tagu yn eu tymor yn creu pob math o fwydydd blasus yn cynnwys jeli, jamiau a diodydd i'n cynhesu yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn. Un o fy hoff bethau i baratoi yr adeg hon o'r flwyddyn yw Jin Eirin Tagu, dyma fy rysáit i:
Rysáit Jin Eirin Tagu
Cynhwysion
250g eirin tagu (yn ddelfrydol, yn syth o'r rhewgell)
1 litr o jin
3 llwy fwrdd o siwgr
Cyfarwyddiadau
Rhowch yr eirin tagu rhewedig ar hambwrdd a'u bwrw â gwaelod sosban trwm neu bin rholio tan bod croen yr eirin wedi rhwygo a bod minlliw piws tywyll yn dechrau glynu wrth yr hambwrdd.
Rhowch yr eirin mewn jwg neu jar ac yna ychwanegwch y siwgr a'r jin. Bydda i'n ychwanegu diferyn o ddŵr berw hefyd i greu ychydig yn fwy o jin ac i annog y ffrwythau i ryddhau mwy o sudd.
Ysgwydwch yn dda a gadewch i'r ffrwythau a'r jin drwytho am o leiaf tair wythnos cyn ei yfed. Po hiraf y gadewch y ffrwythau i drwytho yn y jin, y dyfnaf a chyfoethocaf y blas, felly gwnewch sawl batsh fel nad oes rhaid ichi aros yn rhy hir.
Unwaith eich bod yn hapus â blas y jin, hidlwch a photelwch y cyfan i boteli yn barod i'w cadw am flynyddoedd lawer. Cofiwch, does dim yn well na rhoi potel o jin cartref i deulu a ffrindiau yn anrheg Nadolig.
Gallwch weini'r jin gyda thonic neu ei sipian (yn gymhedrol!) heb ddim arall. Iechyd Da!
"Ba wyrth wir i'r berth eirin?
A fu'n rhoi'r gwawr ddyfna'r gwin" (T.Gwynn Jones)
Hefyd o ddiddordeb: