Anhawster beichiogi am yr eildro 'yn dorcalonnus'
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Wynedd sydd wedi gwario £14,000 ar driniaethau IVF aflwyddiannus yn galw am well cefnogaeth i deuluoedd sy'n cael trafferth ag anffrwythlondeb eilaidd - sef trafferthion wrth drio cael ail blentyn.
Roedd Manon Roberts o'r Bala yn siarad ar raglen Newyddion S4C ac yn disgrifio'r anhawster o feichiogi am yr eildro yn "dorcalonnus".
Dywedodd bod anffrwythlondeb wedi achosi straen meddyliol, corfforol ac ariannol i'r cwpl, ond ei bod wedi gorfod chwilio ar-lein am gymorth ar wefannau cymdeithasol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru does dim ystadegau ar gael i ddangos faint sy'n dioddef, ond mae rhai meddygon yn dweud fod methu cael ail blentyn yn fwy cyffredin nag anffrwythlondeb babi cyntaf.
'Dyliwn i allu'i neud o eto'
"Ar ôl beichiogrwydd naturiol, y peth olaf 'de chi'n feddwl 'se chi'n gorfod ddelio hefo ydi anffrwythlondeb.
"Dwi 'di neud o unwaith, felly dylwn i allu'i 'neud o eto. Ond dydy hi ddim bob amser mor hawdd â hynny."
Mae Manon a Chris Roberts o'r Bala yn trio beichiogi ers dros saith mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae Manon wedi camesgor ac wedi bod drwy dwy driniaeth IVF.
"Ar y dechrau, roeddem yn ei chael hi'n anodd siarad am secondary infertility, ac roedden ni'n cadw popeth i ni'n hunain," meddai.
"Dwi'n teimlo ein bod yn byw mewn oes reit feirniadol, ac roedd gen i ofn i bobl wneud i mi deimlo fel dylwn i ddim cwyno gan fod gennym blentyn yn barod, a bod ein profiad neu golled ddim mor ddrwg â'r cyplau hynny sy'n methu cael plant o gwbl.
"Dwi wedi cael llawer o bobl yn dweud: 'O wel, o leiaf bod gennych chi un plentyn.'"
Yn fam i Efa sydd erbyn hyn yn wyth oed, doedd Manon erioed wedi ystyried y byddai beichiogi am yr eildro yn broblem.
Ond, wedi dros flwyddyn o drio, a chymryd sawl prawf, dywedodd yr arbenigwyr fod ei siawns o feichiogi'n naturiol bron yn amhosibl, a'r unig ffordd i feichiogi oedd drwy IVF.
Mae'n rhaid i bobl dalu am y driniaeth os oes ganddyn nhw blentyn eisoes.
Mi gafodd Manon a Chris Roberts ddau gylchred IVF. Y cyntaf yn 2017 a'r ail yn 2020, ar gost o £7,000 yr un.
"Roedd IVF yn ein dychryn ni'n ofnadwy," meddai Manon. "Yn enwedig i rhywun fel fi sydd gymaint o ofn nodwyddau!
"Mae'r broses i gyd reit tricky o ran y feddyginiaeth a'r injections gan eich bod yn gorfod eu cymryd ar yr union amser cywir neu yn risgio chwalu'r holl gylchred.
"Dwi'n lwcus iawn fod gen i ŵr mor anhygoel a theulu a ffrindiau agos sydd mor gefnogol sydd wedi bod gyda ni bob cam o'r daith."
'Teimlad o euogrwydd'
Aflwyddiannus oedd y ddau driniaeth IVF, ac mae Manon yn teimlo'n euog nad oes gan Efa gwmni brawd neu chwaer.
"Siŵr iawn ein bod yn ddiolchgar fod gennym ni Efa, a 'de ni'n diolch amdani bob dydd.
"Ond dydy hynny ddim yn newid y ffaith ein bod yn teimlo poen a galar am y plentyn 'de ni 'di golli, a'r plant 'de ni'n methu eu cael.
"Dwi'n teimlo'n rhwystredig gan fy mod i'n methu g'neud y peth sy'n dod fwyaf naturiol i ferched, yn enwedig ar ôl ei wneud mor hawdd y tro cyntaf.
"A'r teimlad o euogrwydd hefyd o fethu rhoi brawd neu chwaer i Efa, y rhai oedd hi bron â thorri'i bol isio.
"Dwi wedi colli cownt o faint o weithiau y daeth hi adre o'r ysgol neu barti pen-blwydd yn ei dagrau gan fod gen hi ddim brawd neu chwaer i chware hefo adre.
"Mae'n torri nghalon i."
Yn ôl Manon Roberts, mi roedd ei hangen am ail blentyn yn mynd â'i holl fryd.
"Ma'ch gobeithion a'ch egni i gyd yn mynd i fewn i'r broses, sy'n ei wneud hyd yn oed mwy devastating pan dydi o ddim yn gweithio."
Mae Manon yn teimlo nad oes digon o gefnogaeth i rieni sy'n cael trafferth cael ail fabi.
"Yn anffodus, dwi'n teimlo bod cyplau sy'n dioddef o secondary infertility yn tueddu i gael lot llai o gefnogaeth cymdeithasol ac ariannol na'r cyplau sydd hefo primary infertility.
"Dylai'r angen am gymorth ddim cael ei anwybyddu. Mae pawb hefo stori unigryw eu hunain."
Ac mae'r cwpl o'r Bala yn galw am fwy o gymorth i bobl sydd ddim yn gallu fforddio'r driniaeth.
"Dwi'n teimlo bod y ffaith bod cyplau sydd yn dioddef o secondary infertility yn gorfod talu £7,000 am un rownd o IVF yn hurt.
"Pam na allan nhw gynnig rownd am hanner y pris os nad yw'r rownd gyntaf yn gweithio?
"Dim pawb sydd mewn sefyllfa ariannol digon sefydlog i gael IVF fel opsiwn, sy'n golygu bod y cyplau hynny'n cael eu diystyru'n llwyr."
Sawl rheswm dros anffrwythlondeb eilaidd
Fe wnaeth Dr Dewi Griffiths, meddyg teulu o Gerrigydrudion, helpu Manon a Chris yn ystod y broses.
Dywedodd: "Mae achosion anffrwythlondeb eilaidd yn amrywiol ac yn cynnwys salwch fel clwy'r pennau, rhai triniaethau ar gyfer canser, cyflyrau hunan imiwn a chlefydau metabolaidd fel ofarïau polycystig.
"Tydio ddim yn rhy gyffredin, ond mae'n digwydd yn amlach ymysg y boblogaeth yn gyffredinol nag anffrwythlondeb cynradd.
"Unwaith y bydd unigolyn yn cael diagnosis, mae help i'w gael, ond yn aml gall aros i gael mynediad at wasanaethau arbenigol ychwanegu at straen cleifion."
Drwy rannu ei phrofiadau mae Manon yn gobeithio agor y drafodaeth er mwyn helpu eraill. Mae hi wedi cael cysur mawr, meddai, gan fforymau trafod ar wefannau cymdeithasol.
"Mae cymaint o safleoedd ar rwydweithiau megis Facebook ac Instagram hefo cyplau sydd yn mynd drwy'r un daith â chi.
"Maen nhw'n rhywle lle dwi'n gallu bod yn agored a gonest gyda'n nheimladau heb neb yn fy meirniadu.
"Mae anffrwythlondeb wedi effeithio'n iechyd meddwl i. Es i'n isel iawn a dioddef o or-bryder ar ôl rownd gyntaf IVF, ond erbyn yr ail rownd, roeddem wedi clywed am llawer mwy o gyplau oedd yn mynd trwy'r broses ac yn fodlon rhannu eu stori.
"Mi wnaeth hyn lawer o wahaniaeth i ni, a'n hannog ni i rannu ein stori."
Mae anffrwythlondeb wedi achosi straen meddyliol, corfforol, emosiynol ac ariannol i'r cwpl, ac mae Manon yn teimlo i'r byw, meddai, pan fo pobl yn holi beth ydy hanes nhw fel teulu.
"Yn enwedig pan oedd pobl yn dweud 'Hen bryd i chi gael un arall', neu 'De chi ddim isio llawer o gap, fydd y bond ddim yr un peth'.
"Dydy pobl ddim yn golygu dim byd drwg wrth ddweud hyn. Dydyn nhw just ddim yn meddwl.
"Dydyn nhw ddim yn gwybod beth ydi ein sefyllfa ni. A fydden nhw ddim chwaith os nad ydym yn rhannu ein stori."
O ran y dyfodol mae Manon a Chris wedi penderfynu peidio cael triniaeth IVF arall.
Maen nhw wedi ystyried mabwysiadu, ond yn dweud mai canolbwyntio ar fwynhau bywyd fel teulu o dri sy'n bwysig rŵan.
"Da ni wedi dechrau derbyn mai un plentyn fydd gennym ni, a 'de ni'n iawn hefo hynny.
"Achos, i fod yn onest, fyse ni methu gofyn am blentyn mwy arbennig na Efa, mae hi wir yn hogan fach sbesial a 'de ni'n falch iawn ohoni bob dydd.
"Ond cofiwch, ar ddiwedd y dydd, mae pawb yn ymladd brwydr eu hunain a does neb yn gwybod beth sydd y tu ôl i'r wên."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd7 Medi 2018