Galw am ymchwilio i gytundeb cwmni oedd yn cyflogi AS

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Alun CairnsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Cairns yn ennill £60,000 y flwyddyn am hyd at 224 awr o waith fel ymgynghorydd gyda thri chwmni

Mae galwadau wedi'u gwneud i ymchwilio i sut lwyddodd cwmni o Gymru, wnaeth gyflogi cyn-ysgrifennydd Cymru Alun Cairns fel ymgynghorydd, i sicrhau cytundeb gyda Llywodraeth y DU.

Daw'r alwad gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds yn dilyn adroddiadau fod cwmni BBI Group yn rhan o gonsortiwm wnaeth ennill cytundeb mawr ar gyfer darparu profion gwrthgyrff, fis ar ôl cyflogi Mr Cairns.

Roedd y consortiwm eisoes wedi sicrhau un cytundeb gyda'r llywodraeth cyn iddo gael ei gyflogi fel ymgynghorydd.

Mae Mr Cairns wedi cael cais am sylw.

Un o dri chwmni

Mae AS Bro Morgannwg wedi cyhoeddi yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol Aelodau'r Senedd fod ganddo'r swydd, ble mae'n datgan ei fod yn ennill £15,000 y flwyddyn am hyd at 70 awr o waith.

Mae BBI Group yn un o dri chwmni y mae Mr Cairns yn gweithio iddynt, yn ôl y gofrestr.

Mae rheolau'r Senedd yn gadael i ASau gael eu cyflogi mewn swyddi eraill, ynghyd â'u gwaith yn San Steffan.

Ond mae pryderon am hynny wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf wedi i Lywodraeth y DU atal yr AS Owen Paterson rhag cael ei wahardd o'r Senedd am dorri rheolai lobïo, cyn gwneud tro pedol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd BBI Group yn rhan o gonsortiwm wnaeth ennill cytundeb mawr ar gyfer darparu profion gwrthgyrff

Mae Ms Dodds hefyd yn galw am wneud yn gyhoeddus unrhyw ohebiaeth yn ymwneud â dyfarnu'r cytundeb.

"Fe ddylai arian cyhoeddus wastad fynd i'r cwmnïau gorau, nid rheiny sydd â ffrindiau pwysig neu sy'n gallu fforddio talu AS Ceidwadol i gael mynediad," meddai.

"Mae angen ymchwiliad ar frys i sut y cafodd y cytundeb yma ei ddyfarnu, gan gynnwys cyhoeddi gohebiaeth rheiny fu'n rhan ohono."

Dim proses dendr

Cafodd Mr Cairns ei benodi yn uwch ymgynghorydd i fwrdd cwmni BBI Group, sydd wedi'i leoli yng Nghrymlyn, ar 1 Gorffennaf 2020.

Cyn penodiad Mr Cairns, ym mis Mehefin 2020 roedd BBI Group yn rhan o'r UK Rapid Test Consortium lwyddodd i ennill cytundeb gwerth £10m i ddatblygu prawf gwrthgyrff Covid.

Yna fe wnaeth Llywodraeth y DU ddyfarnu ail gytundeb i'r consortiwm ym mis Awst 2020 i ddarparu miliwn o brofion gwrthgyrff llif unffordd, gyda'r posibilrwydd o brynu mwy yn y dyfodol.

Cafodd y ddau gytundeb eu dyfarnu heb ddilyn proses dendr gystadleuol.

Yn ôl gweinidogion roedd hyn oherwydd y brys oedd ei angen er mwyn delio gyda'r pandemig.

Dim cymeradwyaeth i'r profion

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno fe wnaeth astudiaeth awgrymu nad oedd y profion mor gywir â'r hyn oedd yn cael ei gredu'n wreiddiol, ac ni wnaeth y rheoleiddiwr meddyginiaethau gymeradwyo'r profion ar gyfer defnydd domestig.

Mae'r Good Law Project wedi cael caniatâd i geisio sicrhau adolygiad barnwrol i'r ffordd y cafodd cytundebau eu dyfarnu.

Mae Mr Cairns yn un o ychydig ddwsinau o Aelodau Seneddol sy'n datgan ar y gofrestr buddiannau eu bod yn cael eu cyflogi fel ymgynghorwyr.

Yn ogystal â BBI Group, mae hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd i:

  • Veezu Holdings - cwmni tacsi preifat yng Nghasnewydd. Mae'n derbyn £15,000 y flwyddyn am hyd at 70 awr o waith.

  • Elite Partners Capital Pte Ltd - cwmni eiddo byd-eang sydd wedi'i leoli yn Singapore. Mae'n derbyn £30,000 y flwyddyn am hyd at 84 awr o waith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Cairns hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd i gwmni tacsi preifat yng Nghasnewydd

Mae Mr Cairns yn datgan ei fod wedi trafod y swyddi hynny gydag ACOBA - y corff sy'n cynghori cyn-weinidogion os ydy'r swyddi maen nhw'n eu cymryd ar ôl gadael y llywodraeth yn cydymffurfio â "rheolau penodiadau busnes".

Mae cyngor ACOBA i Mr Cairns ynglŷn â'i swydd gyda BBI Group yn datgan fod "risg y gallai eich cysylltiadau roi mantais annheg" i'r cwmni.

Mae ACOBA felly yn rhoi amodau ar y gwaith y gall Mr Cairns ei wneud i'r cwmni "er mwyn ei gwneud yn glir y byddai'n amhriodol i ddefnyddio'r cysylltiadau y gwnaethoch chi yn y llywodraeth/Whitehall i roi mantais annheg i BBI Group; neu i'w cynghori ynglŷn ag unrhyw gais am gytundeb gyda Llywodraeth y DU".

Does dim tystiolaeth fod Mr Cairns wedi bod yn rhan o ddyfarnu'r cytundeb i'r consortiwm.

Mae BBI Group wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.

Fe wnaeth Mr Cairns ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymru yn 2019 yn dilyn honiadau - yr oedd Mr Cairns yn eu gwadu - ei fod yn gwybod am rôl cyn-aelod o'i staff yn dymchwel achos treisio.