Menyw'n ailddarganfod y Gymraeg diolch i gynllun sgwrsio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Muriel Rogers sy'n 83 oed, a Kadun Rees sy'n 22 oed wedi bod yn sgwrsio am flwyddyn

Mae cynllun sy'n rhoi cyfle i bobl hŷn gael sgyrsiau ffôn gyda gwirfoddolwyr wedi golygu bod gwraig o'r cymoedd wedi gallu ailddarganfod ei Chymraeg.

Mae Muriel Rogers o bentre' Fochriw yn Sir Caerffili yn 83 oed, a Kadun Rees, sy'n wreiddiol o Abertawe ac yn fyfyriwr ôl-radd yn Brighton, yn 22 oed.

Ers blwyddyn maen nhw wedi bod yn sgwrsio ar y ffôn yn wythnosol, fel rhan o gynllun cyfeillgarwch Age Cymru.

"O'n i ynghanol y pandemig, so o'n i ar furlough gyda gwaith," meddai Kadun.

"'Odd 'da fi llwyth o amser sbâr, o'n i jyst ishe neud rhywbeth gyda'r amser sbâr.

"O'n i ar y cyfryngau cymdeithasol a nes i weld rhywbeth gan Age Cymru, ac o'n i jyst yn teimlo bod e'n rhywbeth neis i neud i helpu pobl hŷn yn ystod y pandemig."

Cyswllt â'i mamiaith

Mae'r ffaith fod y ddau yn gallu sgwrsio yn Gymraeg wedi bod o fudd mawr i'r ddau ohonyn nhw.

Dyw Kadun ddim yn cael fawr o gyfle i siarad yr iaith yn Brighton, ac i Muriel dyma'i hunig gyswllt â'i mamiaith bellach.

"O'n i ddim yn siarad Cymraeg o gwbl cyn i Kadun ffonio fi," meddai.

Ffynhonnell y llun, Age Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Kadun Rees mae eu cyfeillgarwch wedi datblygu dros y flwyddyn diwethaf

"'Wi'n edrych ar S4C a gweld llawer o raglenni Cymraeg - 'wi'n gallu deall e, ond if you don't use it you lose it - a 'na beth sydd wedi digwydd i fi."

Cafodd Muriel ei magu ar aelwyd Gymraeg yn Fochriw, ond ers iddi golli ei mam flynyddoedd lawer yn ôl, does 'na neb ar ôl iddi siarad yr iaith â nhw.

"Mae'r pentre' wedi newid. O'dd y capeli yn cadw'r Gymraeg i fynd... a'r cymanfaoedd a phopeth, ond mae hwnna wedi newid. Mae fe ddim yn gymuned ddim rhagor."

Hel atgofion

Bellach mae'r ddau yn sgwrsio am bob math o bethau yn eu galwadau wythnosol, ac mae'n amlwg bod Kadun yn mwynhau clywed Muriel yn hel atgofion am ei phlentyndod yn Fochriw, a hefyd ei gwyliau haf ar fferm y teulu yn ardal Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.

Ffynhonnell y llun, Age Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Muriel Rogers wedi cael cyfle i ailddarganfod ei Chymraeg drwy ei sgyrsiau efo Kadun

"Fel arfer mae Muriel yn sgwrsio llawer," meddai Kadun.

"Mae hi'n dweud bod ei theulu yn ei galw hi'n chatterbox. Ni fel arfer yn sgwrsio am ein hwythnosau ni... y tywydd... ac mae Muriel yn hoff iawn o siarad am y gorffennol."

Yn ôl Muriel mae ei chyfaill ifanc yn amlwg yn mwynhau'r sgyrsiau.

"O'n i'n dweud wrtho fe s'dim rhaid i chi ffonio fi bob dydd Sul am awr. Os oes pethau eraill 'ych chi mo'yn neud - cerwch chi, fyddai'n iawn. Ond na, 'wi'n caru clywed eich storiâu' medde fe."

Ffrindiau

Mae'n amlwg bod y ddau yn gweld budd mawr i'w galwadau ffôn.

"Dim ond Kadun sydd 'da fi i siarad Cymraeg nawr... mae fe'n cadw'r iaith yn fyw 'da fi. Ni'n chwerthin lot. Ni'n joio'r cwmni... fe a fi."

Ac mae Kadun yn cytuno.

"Mae'n swnio'n od ond mae Muriel fel mam-gu i fi - sydd yn od achos ni byth 'di gweld ein gilydd."

A Muriel sydd biau'r gair ola' am y cyfeillgarwch sydd wedi datblygu dros y ffôn dros y flwyddyn ddiwetha'.

"Mae oedran ddim yn dod mewn iddo fe. 'Wi'n 83 ac mae Kadun yn 22, ond ni wedi dod yn ffrindiau."

Pynciau cysylltiedig