Gwrthwynebu gorfod cael cardiau adnabod i bleidleisio

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Petai etholiadau'r DU a Chymru yn digwydd ar yr un diwrnod, fe allai rheolau'r ddau fod yn wahanol

Fe fyddai gorfodi etholwyr i gael cardiau adnabod erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn annheg ar rai pobl mewn cymdeithas, medd y Gymdeithas Diwygio Etholiadol.

Os yw Llywodraeth y DU yn cymeradwyo'r Bil Etholiadau, fe fydd yn rhaid dangos dogfen gyda llun adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio.

Dywed Llywodraeth y DU y bydd y newid yn "gwella hygyrchedd".

Ond yn ôl y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol fe allai'r newid gael effaith annheg ar Gymru.

"Ry'n ni'n gwybod y gallai pobl sy'n lleiaf tebygol o fod â cherdyn adnabod fod yn ddi-waith, maent o bosib yn byw mewn tai cyngor neu dai cymdeithasol, fe allen nhw fod yn bobl anabl neu'n bobl hŷn," medd cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Jess Blair.

"Mae anghyfartaledd o'r fath yn ein poeni ni.

"Mae yna risg gwirioneddol y gallai'r ddeddfwriaeth yma gael effaith annheg ar bobl Cymru - yn enwedig ar bobl ddi-waith, pobl anabl, pobl hŷn neu bobl allai o bosib fod yn byw mewn tŷ cyngor neu dŷ sy'n perthyn i gymdeithasau tai."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r rheolau ond yn gymwys ar gyfer etholiadau San Steffan

Mae ymchwil gan Lywodraeth y DU yn awgrymu nad oes gan 4% o boblogaeth y DU - oddeutu 2.68 miliwn o bobl - lun adnabod cymeradwy.

Mae Ms Blair yn credu y gallai "degau o filoedd" o bobl yng Nghymru fod yn eu plith.

Mae hi am i Lywodraeth y DU "oedi ac ailfeddwl" cyn rhoi sêl bendith.

Mae 22 o sefydliadau Cymreig eraill hefyd eisiau cael gwared â'r cynlluniau.

Dywed Panel Cynghori Is-Sahara y gallai'r newid beryglu enw da Cymru fel cenedl noddfa ac y gallai cymunedau du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig fod dan anfantais.

Dywedodd Billy Mayoza, sy'n weithiwr ieuenctid, nad yw'r cymunedau y mae e'n gweithio yn eu plith "am gael eu holi" dim ond er mwyn bwrw pleidlais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd galwadau ar gael trefn debyg yng Nghymru eu gwrthod

Dywed Ahmed Atiel, 18, ei fod yn teimlo "nad yw Llywodraeth y DU yn ymddiried yn eu pobl".

Yr wythnos ddiwethaf yn y Senedd fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw AS, wrthod ymgais gan y Ceidwadwyr i gyflwyno cynlluniau tebyg yn etholiadau Cymru.

Ond dywed llefarydd y Ceidwadwyr ar y cyfansoddiad, Darren Millar AS, bod cyflwyno cardiau adnabod â llun yn arferol yn Ewrop.

"Os ydych yn gorfod arddangos ryw fath o gerdyn adnabod i gael parsel, dylech fod yn gorfod cyflwyno llun adnabod er mwyn pleidleisio," meddai.

'Atal twyll'

Mae'r Bil Etholiadau yn mynd trwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd ac os yw'n cael ei gymeradwyo bydd yn rhaid dangos dogfen adnabod â llun er mwyn cael pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

Fe fyddai'n rhaid gwneud hynny ar gyfer etholiadau seneddol y DU ac etholiadau y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ond ni fyddai'r ddeddfwriaeth yn gymwys ar gyfer etholiadau Senedd Cymru nag etholiadau lleol.

Ymhlith dogfennau adnabod fyddai'n cael eu derbyn mae cardiau rheilffordd, pasys bws, trwyddedau gyrru, pasportau a chardiau parcio bathodyn glas.

Dywed Llywodraeth y DU y byddai dangos llun adnabod mewn gorsaf bleidleisio yn atal twyll ac yn adfer hyder mewn pleidleisio.

Yn etholiad seneddol diwethaf y DU cofnodwyd 33 achos o dwyll mewn gorsafoedd pleidleisio.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Codi'r Gwastad, Tai a Chymunedau: "Fe fydd unrhyw un sy'n gymwys i bleidleisio yn cael cyfle i wneud hynny.

"Bydd ein diwygiadau yn gwella hygyrchedd ac yn sicrhau bod anghenion pob etholwr yn cael eu hystyried gan swyddogion etholiadol - yn enwedig etholwyr sydd ag anableddau.

"Bydd unrhyw etholwr cymwys, na sydd â dogfen adnabod â llun, yn gallu gwneud cais am gerdyn pleidleisio di-dâl gan eu cyngor lleol."