Miloedd o bobl ifanc ddim wedi cofrestru i bleidleisio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
pleidlaisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 1969 fe ostyngodd oedran pleidleisio ar draws y DU o 21 i 18 oed

Mae'n ymddangos na fydd degau o filoedd o bobl ifanc yn pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru ddydd Iau er bod hawl gan 70,000 o bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio eleni am y tro cyntaf.

Yn Nhachwedd 2019 fe wnaeth 41 o aelodau'r Senedd bleidleisio o blaid deddf rhoi pleidlais i bobl 16 oed erbyn yr etholiadau datganoledig nesaf.

Ond mae ffigyrau gan y BBC yn awgrymu y bydd 53% o bobl ifanc ddim yn pleidleisio wedi iddynt beidio cofrestru.

Mae'r ffigyrau yn dangos ymhellach bod 2,314,998 o bobl yng Nghymru - oddeutu 73.4% o'r boblogaeth - wedi cofrestru i bleidleisio ddydd Iau.

Ond o'r oddetu 60,000 o bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn 20 awdurdod lleol yng Nghymru mae llai na 29,000 wedi cofrestru i bleidleisio.

Mae hyn yn golygu y bydd 53% o bobl ifanc - neu 31,778 - ddim yn lleisio eu barn.

Y sefyllfa ar draws Cymru

Ar draws Cymru mae'r nifer o bobl ifanc sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn amrywio.

Ym Mro Morgannwg mae'r ganran uchaf o bobl ifanc sy'n gymwys i bleidleisio ac amcangyfrifir bod 68.6% wedi cofrestru. Yn Abertawe mae'r gyfran isaf gydag oddeutu 31.73% wedi cofrestru.

Ni wnaeth Rhondda Cynon Taf na Phowys rhoi ffigyrau i'r BBC, ond mae'r niferoedd fel a ganlyn yn siroedd eraill Cymru:

  • Blaenau Gwent - 704 (49.37%)

  • Caerdydd - 2,546 (34.72%)

  • Caerfyrddin - 1,438 (34.76%)

  • Caerffili - 1,961 (47.26%)

  • Casnewydd - 1,857 (51.55%)

  • Castell-nedd Port Talbot - 1,259 (40.19%)

  • Ceredigion - 908 (63.0%)

  • Conwy - 1,477 (61.13%)

  • Dinbych - 1,299 (61.01%)

  • Fflint - 2,192 (60.72%)

  • Gwynedd - 994 (39.81%)

  • Merthyr Tudful - 491 (38.94%)

  • Mynwy - 938 (44.31%)

  • Penfro - 1,328, (48.17%)

  • Pen-y-bont - 1,602 (50.30%)

  • Torfaen - 887 (42.66%)

  • Wrecsam, 1,752 (58.03%)

  • Ynys Môn - 791 (56.34%)

Yn draddodiadol mae'r niferoedd sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd yn is - 45.3% a bleidleisiodd yn yr etholiad diwethaf yn 2016 - a dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut fydd y pandemig yn effeithio ar nifer y pleidleiswyr eleni.

Fe wnaeth 71.1% o'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio yng Nghymru fwrw pleidlais yn y refferendwm ar adael y DU ac yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019 fe wnaeth 66.6% bleidleisio.

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod 2,358,070 wedi cofrestru yng Nghymru erbyn 2 Mawrth - allan o oddeutu 3.15 miliwn.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Sylwer: Efallai y bydd etholiadau cynghorau plwyf neu is-etholiadau mewn cynghorau hefyd lle rydych chi, nad ydyn nhw wedi'u cynnwys fan hyn. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion llawn. Diweddarwyd ddiwethaf: May 11, 2021, 12:35 GMT

Fe wnaeth ymchwil a gyhoeddwyd cyn y cyfnod clo cyntaf ym Mawrth 2020 awgrymu fod gwybodaeth pobl ifanc Cymru am wleidyddiaeth Cymru yn gyfyng iawn.

Dangosodd ymchwil gan gwmni Beaufort (a holodd 148 o bobl 14-17 oed a gwladolion tramor) bod nifer ddim yn gwybod pwy oedd prif weinidog Cymru na beth oedd swyddogaeth llywodraeth Cymru ond nodwyd bod 72% o'r rhai rhwng 16 a 17 oed am gael yr hawl i bleidleisio - dim ond 12% oedd yn gwrthwynebu hynny.

Ers hynny mae'r pandemig wedi codi mwy o ymwybyddiaeth am bwy sy'n rheoli pa rannau o'r DU.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ifanc 16 ac 17 oed eisoes wedi pleidleisio mewn etholiadau yn Yr Alban

Ym mis Chwefror fe ddangosodd ymchwil gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru ac YouGov fod 69% o'r rhai rhwng 16 a 24 a holwyd yn credu bod etholiadau'r Senedd yn bwysig - cyfran uwch nag mewn unrhyw grŵp arall ac eithrio pobl dros 65.

Fe wnaeth pobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth Yr Alban yn 2014 ac yna yn etholiad Holyrood yn 2016.

Does dim hawl gan bobl ifanc o dan 18 oed ddewis pwy sy'n cael eu cynrychioli fel Aelod Seneddol yn San Steffan na chwaith ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

'Siomedig ond ddim yn annisgwyl'

Dywedodd Jess Blair o Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru: "Mae'n siomedig, ond ddim yn syndod efallai, bod cyn lleied o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cofrestru ar gyfer yr etholiad yr wythnos hon.

"Mae etholiad y Senedd yn gyfle hanesyddol i bobl ifanc gael dweud eu dweud. Mae'n holl bwysig fod pawb yn pleidleisio."

Dywed yr arbenigwr gwleidyddol Yr Athro Roger Awan-Scully, o Brifysgol Caerdydd, ei fod yn ofni y bydd y niferoedd a fydd yn pleidleisio ddydd Iau yn "eithriadol o isel" wrth i lawer o sylw gael ei roi ar y pandemig.

Ychwanegodd y gallai fod yn debyg i bleidlais 2003 yn ystod rhyfel Irac - dim ond 38.3% a bleidleisiodd sef y nifer isaf ar gyfer etholiad datganoledig.

"Gyda nifer o bethau'n digwydd gallai'r niferoedd fod yn isel iawn - ond wedi dweud hynna mae'r niferoedd sydd wedi bod yn pleidleisio ar draws y byd wedi bod yn gymharol uchel," meddai.

"Yn sicr mae'r cyfnod wedi dangos bod datganoli yn bod ac yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn uniongyrchol."