Llyfrau o bwys hanesyddol wedi'u dinistrio mewn tân

  • Cyhoeddwyd
Berwyn Books
Disgrifiad o’r llun,

"Does dim modd achub unrhyw beth," meddai rheolwr y safle

Mae tua 400,000 o lyfrau wedi cael eu dinistrio mewn tân ddechreuodd mewn warws oedd yn cadw rhai eitemau o bwys hanesyddol.

Roedd llyfr oedd wedi'i arwyddo gan y Frenhines Victoria, rhifyn cyntaf y Radio Times o 1923 a sawl llyfr hynafol iaith Gymraeg ymysg y rhai a gollwyd yn y tân ar safle Berwyn Books yn Sir y Fflint.

Dywedodd staff ei bod yn "drychinebus" colli'r deunydd, gydag amcangyfrif bod gwerth tua £1m o eitemau wedi'u dinistrio.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio canfod achos y tân ar y safle ym Mwcle ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Berwyn Books
Disgrifiad o’r llun,

Mae llyfr wedi'i arwyddo gan y Frenhines Victoria, rhifyn cyntaf y Radio Times a llyfrau hynafol iaith Gymraeg ymysg y rhai a gollwyd

"Does dim modd achub unrhyw beth," meddai rheolwr y swyddfa, Emma Littler.

Ychwanegodd fod "darnau o hanes wedi'u colli".

Mae'r warws a'r siop ail law, ynghyd â'u chwaer-gwmni Cheshire Book Centre, yn un o'r cwmnïau llyfrau mwyaf yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Martin Bailey
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio canfod achos y tân ar y safle ym Mwcle

"Dydyn ni ddim yn siŵr ble i fynd nesaf," meddai Jane Sutcliffe, sy'n gweithio yno.

"Rydyn ni'n dal i ddod i dermau â'r hyn sydd wedi digwydd ac mae'n rhy gynnar i wneud unrhyw benderfyniadau mawr."

Pynciau cysylltiedig