Y Bencampwriaeth: Barnsley 0-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Olivier NtchamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Olivier Ntcham yn sgorio i Abertawe nos Fercher yn erbyn Barnsley

Mae Abertawe bellach yn y nawfed safle, bedwar pwynt yn brin o'r timau yn safle'r ail gyfle, wedi eu buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Barnsley nos Fercher.

Mae Barnsley yn agos iawn at waelod y Bencampwriaeth a newydd benodi rheolwr newydd ac ar ddechrau'r gêm roedd y tîm cartref fel petaent yn benderfynol o'i blesio.

Ond yn fuan iawn roedd Abertawe yn rheoli'r gêm, ac yn yr hanner cyntaf roedd wythdeg y cant o'r meddiant gan yr ymwelwyr - dim ond wrth i'r hanner cyntaf dynnu at ei derfyn y bu unrhyw ymosodiad oedd yn bygwth Barnsley. Di-sgôr oedd hi ar hanner amser.

Roedd Barnsley yn fwy ymosodol ar ddechrau'r ail hanner, ond roedd Abertawe yn dal i reoli'r gêm ar y cyfan.

Fe gafwyd peth eilyddio gan yr Elyrch, ac yr oedd dau ohonynt yn allweddol i roi'r ymwelwyr ar y blaen - fe gafwyd croesiad isel gan Ryan Manning a hynny i droed Olivier Ntcham gan roi Abertawe ar y blaen ar ôl 74 munud. Ymhen pum munud roedd Jamie Paterson wedi sgorio gôl arall i Abertawe.

Mae'r tri phwynt yn codi Abertawe i'r nawfed safle.