Maes Awyr Caerdydd: £85m o gymorth 'wedi'n cadw ni'n fyw'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Y flwyddyn nesaf bydd cwmnïau hedfan TUI a Wizz yn dechrau hedfan o Gaerdydd.

Mae pennaeth Maes Awyr Caerdydd wedi amddiffyn derbyn cymorth o £85m gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

Dywedodd y prif swyddog gweithredol, Spencer Birns fod yr arian ychwanegol wedi cadw'r maes awyr yn fyw.

Prynodd Llywodraeth Cymru y maes awyr yn 2013, ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylen nhw "dorri eu colledion" a'i werthu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i'r maes awyr oherwydd y buddion a ddaw yn ei sgil i economi Cymru.

'Ail-dyfu'

Ym mis Awst 2021 roedd nifer teithwyr y maes awyr i lawr 90%, gan gyrraedd yr ail lefel isaf yn y DU, tra bod ei werth wedi gostwng mwy na dwy ran o dair.

Ym mis Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu £42.6m o ddyled y maes awyr a rhoi grant adfer pum mlynedd o £42.6m iddo.

Dywedodd Mr Birns "eu bod wedi rhoi'r fframwaith i ni aros yn fyw".

"Maen nhw wedi ein helpu ni i ddod i'r sefyllfa y gallwn ni ail-dyfu'r busnes, a all ddarparu'r gwerth economaidd yn ôl i Gymru," meddai.

Ychwanegodd fod adferiad wedi bod yn "araf... yn bennaf oherwydd bod pobl wedi cael eu hannog i beidio â theithio dramor eleni".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer y teithwyr ym maes awyr Caerdydd yn fwy yn y 1960au nag yn ystod y pandemig

Ar hyn o bryd mae modd hedfan o Gaerdydd i 15 o leoliadau, ond cyn y pandemig roedd 52 ohonynt.

Y flwyddyn nesaf bydd cwmnïau hedfan TUI a Wizz yn dechrau hedfan o Gaerdydd.

Prynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr yn 2013 am £52m, ac ers hynny mae wedi buddsoddi mwy na £130 miliwn o arian trethdalwyr ynddo.

Mae'n cael ei redeg hyd braich gan gwmni annibynnol HoldCo, a chyn y pandemig roedd wedi gweld twf sylweddol yn nifer y teithwyr.

Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Asghar AS, fod ariannu'r maes awyr yn "pwmpio" arian trethdalwr i mewn i "bwll gwag".

"Byddwn i'n dweud y dylid torri'r colledion a'i werthu, derbyn yr hyn sydd wedi digwydd a gwario'r arian hwnnw ar bethau eraill sy'n bwysicach ac yn flaenoriaeth i bobl Cymru ar hyn o bryd."

Ym mis Mai roedd y maes awyr mewn dyled o £27.2m, ond yn ôl Mr Birns, mae'n cyfrannu at economi Cymru trwy gyflogi 2,500 o bobl ac mewn amseroedd arferol yn cynhyrchu mwy na £240m y flwyddyn mewn refeniw.

'Rhyfedd'

Dywedodd CBI Cymru, sy'n cynrychioli busnesau Cymru, y bydd cael maes awyr yng Nghymru wrth i ni ddod allan o'r pandemig yn annog buddsoddiad rhyngwladol.

Yn ôl y cyfarwyddwr Ian Price, byddai'n "rhyfedd" i beidio â chael maes awyr a byddai hynny'n "rhoi Cymru dan anfantais".

Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai Treth Teithwyr Awyr yn cael ei haneru ar gyfer teithiau domestig o Ebrill 2023, i roi hwb i'r sector a datblygu gwell cysylltiadau teithio yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Wizz Air
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wizz Air yn un o'r cwmnïau fydd yn hedfan o Gaerdydd o'r flwyddyn nesaf

Ond cwestiynodd Mr Birns pa mor ddefnyddiol fyddai hynny.

"Pam mae Llywodraeth y DU yn aros 18 mis i wneud hyn? Beth am ei wneud yfory? Os ydyn nhw'n siarad am ysgogiad economaidd ar gyfer cysylltedd â'r rhanbarthau, beth sy'n eu rhwystro rhag ei wneud yfory?"

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi "cyhoeddi diwygiadau a chyfraddau dros 12 mis ymlaen llaw i roi digon o rybudd i gwmnïau hedfan ac i gydnabod hyd cylchoedd archebu cwmnïau hedfan".

Yn y cyfamser, codwyd pryderon tymor hir eraill ynghylch perchnogaeth y maes awyr.

Tra bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sero net erbyn 2050, mae eu cynlluniau eu hunain yn dweud y bydd hediadau yn y dyfodol yn un o'r allyrwyr carbon mwyaf.

Argyfwng hinsawdd

Mae'r Athro Calvin Jones, economegydd yn ysgol fusnes Prifysgol Caerdydd, wedi bwrw amheuaeth ar ba mor gydnaws yw bod yn berchen ar faes awyr a mynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd.

"Dywedodd rhai pobl wrthyn nhw am beidio â phrynu'r maes awyr. Fe wnaethon nhw ei brynu beth bynnag, ac erbyn hyn mae ganddyn nhw rywbeth nad ydyn nhw fwy na thebyg yn gwybod beth i'w wneud ag ef nawr," meddai.

"Dwi'n credu mai'r peth iawn i'w wneud yw cael strategaeth lle rydych chi'n lleihau gweithgarwch y maes awyr.

"Cyn gynted ag y byddwch chi'n derbyn hynny ac yn dechrau meddwl am yr hyn y gallen ni ei wneud gyda'r darn hwn o dir a allai fod yn werthfawr mewn ffordd wirioneddol ddi-garbon, yna fe allai rhai syniadau da godi."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru oherwydd y buddion a ddaw yn ei sgil i economi Cymru gyfan, wrth gydnabod yr heriau y mae hyn yn eu creu ar gyfer cyrraedd ein targedau ar ddatgarboneiddio."