Storm Arwen: Cannoedd yng Nghymru'n parhau i fod heb drydan

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd un ddynes ddihangfa lwcus wedi i goeden ddisgyn ar dafarn ym Mhen-y-bont dros y penwythnos (Fideo: Lee Hancock)

Mae cannoedd o dai ar draws Cymru yn parhau i fod heb drydan yn dilyn difrod a achoswyd gan Storm Arwen dros y penwythnos.

Dywedodd SP Energy Networks, sy'n cyflenwi gogledd a chanolbarth Cymru, fod 1,600 o dai yn parhau i fod heb bŵer fore Llun.

Erbyn amser cinio roedd tua 1,000 o'r rheiny wedi eu hail-gysylltu.

Cafodd tua 7,000 o gartrefi eu pŵer trydan yn ôl dros nos a'r gobaith yw y bydd y gweddill yn cael eu hadfer yn ddiweddarach.

Yr ardal gafodd ei heffeithio waethaf oedd Dyffryn Dyfrdwy, ble bu rhai pobl heb gyflenwad ers dros 30 awr.

Bwyd a llety i gwsmeriaid

Dywedodd llefarydd ar ran SP Energy fod y difrod yn sylweddol mewn mannau, gan gynnwys rhai llefydd ble roedd angen ailosod rhesi cyfan o bolion.

"Fe wnaeth Storm Arwen ddod â gwyntoedd o dros 90mya, ac mae wedi achosi rhai o'r difrod gwaethaf i'n rhwydwaith ni mewn blynyddoedd," meddai llefarydd.

"Mewn sawl ardal mae difrod sylweddol wedi ei achosi gan goed yn disgyn, a malurion eraill sydd wedi chwythu, ac mae peirianwyr hefyd yn gorfod delio gyda'r effaith i rwydweithiau ffyrdd sy'n gwneud rhywfaint o'r gwaith atgyweirio hyd yn oed yn anoddach."

Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r cwmni'n darparu bwyd a diod poeth i bobl oedd yn parhau i gael eu heffeithio ddydd Sul, yn ogystal â llety i gwsmeriaid bregus os oedd angen.

Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl 36 awr heb bŵer, mae Andrew yn disgwyl y bydd yn rhaid iddo daflu'r holl fwyd sydd ganddo yn yr oergell a'r rhewgell

Bu'n rhaid i Andrew Thomas o Benrhiwgoch yn Sir Gâr anfon ei wraig a'u babi i aros gyda'i rhieni er mwyn cael bwyd a lloches, gan fod y trydan wedi bod allan ers 13:00 ddydd Gwener.

"Mae e'n bryder gyda'r un fach achos does gyda ni ddim trydan ac mae wedi bod sbel nawr," meddai Mr Thomas.

"Allwn ni ddim cael cawod, does dim gwres, allwn ni ddim golchi dillad i'r plant fynd i'r ysgol, allwn ni ddim gwneud bwyd nac unrhyw beth.

"Allwn ni ddim hyd yn oed gwneud paned o de, dyw pethau syml mewn bywyd ddim yn bosib."

Ffynhonnell y llun, Adrian Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Storm Arwen achosi difrod sylweddol mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys yn Llandudno

Yn y cyfamser dywedodd Western Power Distribution, sy'n gwasanaethu de a gorllewin Cymru, fod y storm wedi effeithio ardaloedd gwledig Sir Gâr yn bennaf, ger arfordir Ceredigion.

Ar un adeg dros nos ddydd Gwener i fore Sadwrn roedd hyd at 30,000 o gwsmeriaid ar draws Cymru heb bŵer, wrth i'r storm achosi difrod sylweddol a tharfu ar wasanaethau teithio.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fore Sul fod nifer cyfyngedig o drenau bellach yn rhedeg unwaith eto, ond y dylai pobl wirio'r amserlenni ar eu gwefan cyn teithio.

Pynciau cysylltiedig