Lluniau: Dydd Llun Y Ffair Aeaf 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Llynedd cafwyd siom aruthrol wedi i'r Ffair Aeaf gael ei gohirio. Ond eleni mae'r torfeydd wedi dychwelyd i Lanelwedd i fwynhau diwylliant amaethyddol Cymru.

Dyma rywfaint o'r golygfeydd o ddydd Llun yn Y Ffair Aeaf 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n ddiwrnod oer ond sych yn Llanelwedd; tywydd perffaith i grwydro efo paned o de neu goffi mewn llaw

Disgrifiad o’r llun,

Yn mwynhau eistedd ar y peirianwaith oedd Arthur a'i chwaer fach Gwen o Dregaron

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid ciwio er mwyn mynd i'r neuadd fwyd yn sgil rheolau COVID-19

Disgrifiad o’r llun,

Ond roedd hi'n werth ciwio er mwyn profi'r bwyd anhygoel oedd ar gael i'w flasu

Disgrifiad o’r llun,

Yn ymweld am y dydd oedd bachwr y Scarlets, Cymru a'r Llewod, Ken Owens

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwartheg yn eu holau yn y sioe, gyda chystadlu brwd yn y prif gylch

Disgrifiad o’r llun,

Bleddyn yn dangos rhai o'r moch o'i fferm yn Llannon i'w ffrindiau Cai a Gruff

Disgrifiad o’r llun,

Coeden Nadolig yn gefndir i lwyfan yr anifeiliaid a'r cystadleuwyr

Disgrifiad o’r llun,

Dipyn o adloniant wrth y stondinau; canu carolau er mwyn cadw'n gynnes

Disgrifiad o’r llun,

Cynnyrch porc gorau Cymru'n cael eu harddangos

Disgrifiad o’r llun,

Stephen o Keaey View ger y Drenewydd yn paratoi ei fuwch limousin cross cyn y gystadleuaeth

Disgrifiad o’r llun,

Pedoli ceffylau, a dysgu'r plant sy'n bresennol sut mae gwneud

Disgrifiad o’r llun,

Derfyn dydd; Cerdded heibio goleuadau'r maes ar ôl diwrnod oer ond llwyddiannus