Diflaniad myfyrwraig o'r gogledd yn 'anarferol iawn'

  • Cyhoeddwyd
Catrin MaguireFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Catrin Maguire ei gweld ddiwethaf ar gamerâu cylch cyfyng yn ardal Ynys Lawd, Caergybi

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio o'r newydd am wybodaeth yn eu hymchwiliad i ddiflaniad myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Catrin Maguire, 22, wedi bod ar goll ers dros bythefnos bellach, ac mae'r heddlu'n dweud eu bod yn "bryderus iawn" amdani.

Cafodd ei gweld ddiwethaf ar gamerâu cylch cyfyng yn ardal Ynys Lawd, Caergybi, ger y warchodfa natur.

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal honno ddydd Llun, 15 Tachwedd i gysylltu â nhw os welon nhw Ms Maguire.

'Croes i'w chymeriad'

Ar un pwynt fis diwethaf bu nifer o asiantaethau'n rhan o'r chwilio amdani, gan gynnwys gwylwyr y glannau, yr RNLI a thimau o gŵn sy'n arbenigo mewn canfod pobl.

Er hynny, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw wybodaeth newydd ers dros wythnos bellach.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif Arolygydd Llinos Davies fod yr heddlu'n "poeni'n fawr" am Catrin Maguire

"Mae'n bryderus iawn i ni, yn bryderus iawn i'r teulu ac mae'n anarferol iawn i Catrin - dydy hi ddim wedi diflannu o'r blaen ac mae'n groes i'w chymeriad," meddai'r Prif Arolygydd Llinos Davies.

"Rydyn ni'n poeni'n fawr am ei diogelwch ac yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth."

Dywedodd y llu eu bod yn cadw meddwl agored am ddiflaniad Ms Maguire, ond eu bod yn credu ei fod yn "annhebygol o fod yn amheus".